Teyrngedau i ddyn 26 oed a fu farw â coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Josh YoungmanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Josh Youngman, 26, a fu farw o'r coronafeirws 'o fewn wythnos'

Rhoddwyd teyrngedau i ddyn 26 oed o Gaerdydd, a gollodd y "frwydr yn erbyn coronafeirws" o fewn wythnos iddo fynd yn sâl, yn ôl ei bartner.

Roedd Josh Youngman yn fab i'r Parch Chris Youngman, o Rushden, Sir Northampton, ac roedd yn byw yn ardal Treganna o'r brifddinas.

Dywedodd ei bartner, Charlotte Mills, ar Twitter ei fod yn iach cyn hynny.

"Plîs cymerwch hyn o ddifrif. Does neb yn anorchfygol," meddai.

Mewn datganiad dywedodd yr eglwys y mae ei dad yn gofalu amdani fod pawb yn drist ac mewn sioc o glywed y newyddion.

Roedd y Parch Youngman i ffwrdd o'i waith yn galaru, meddai'r datganiad, gan ychwanegu y byddai'r aelodau'n gweddio drosto, a'i wraig Liz a'r teulu.

Postiodd Ms Mills neges ar Twitter ddau ddiwrnod yn ôl: "Dwi'n dy garu di. Roeddwn yn credu mai ti oedd yr un y byddwn yn treulio gweddill fy mywyd gydag e.

"Ti oedd yr un peth oedd yn fy nghadw'n gall trwy'r holl rwtsh. Yr un person allai roi gwên ar fy wyneb…"

Rhoddodd emoji o galon yn torri hefyd, ac yn ddiweddarach postiodd: "Plîs darllenwch hwn. Mae hwn yn taro pawb, nid dim ond yr hen a'r bregus. #COVID19 #StayHome."

Mae'r sylw wedi cael ei hoffi a'i ail-drydar 1,500 o weithiau.