Coronafeirws: 'Teuluoedd angen trafod marwolaeth'

  • Cyhoeddwyd
Trafodaeth teuluFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe ddylai pawb gael sgyrsiau am farwolaeth a thrafod eu dymuniadau gyda'u hanwyliaid petai nhw'n mynd yn ddifrifol wael, yn ôl arbenigwr gofal lliniarol.

Wrth i'r pandemig coronafirws ledu ym Mhrydain mae arbenigwyr sy'n gofalu am gleifion diwedd oes yn annog pobl i gael y sgyrsiau anodd hynny tra bo modd.

Mae un o feddygon lliniarol mwyaf blaenllaw'r wlad, y Farwnes Ilora Finlay o Landaf, yn dweud y dylai pawb ystyried pa driniaeth y bydden nhw'n dymuno derbyn petai nhw'n mynd yn ddifrifol wael a lleisio eu dymuniadau ar ôl eu marwolaethau a chyfleu hyn i'w hanwyliaid.

Er mai symptomau ysgafn o Covid-19 fydd y mwyafrif yn eu dioddef, mae'r Farwnes Finlay yn annog pawb, nid yr henoed a'r bregus yn unig, i "ailystyried, ailfeddwl a dweud beth sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw" wrth i'r cyhoedd wynebu'r pandemig.

Wrth siarad â rhaglen Politics Wales BBC Cymru, mi ddywedodd y Farwnes Finlay: "Hyd yn hyn, roedd pobl yn meddwl bod modd cynllunio ar gyfer popeth, ond rydyn ni wedi sylweddoli o'r diwedd ein bod yn byw gydag ansicrwydd drwy'r amser, ac mae wedi ein hwynebu'n uniongyrchol.

"Felly mae'n rhaid i ni feddwl nawr - beth yw'r pethau sy'n bwysig i ni? Pa sgyrsiau y dylen ni gael gyda'r rhai rydyn ni'n eu caru, nawr - nid yfory na drennydd - a beth sydd angen i ni ddweud wrthyn nhw?

"Efallai bod gyda ni safbwyntiau cryf ... efallai os ydych chi'n fregus ac yn mynd yn sâl gyda'r firws yma, efallai eich bod chi'n teimlo nad ydych am fynd i'r ysbyty a chael eich rhoi ar beiriant anadlu.

"Rhaid i chi adael i bobl wybod nawr fel bod modd rhoi pethau ar waith.

"Ond yn anad dim, siaradwch â'r bobl rydych chi'n eu caru ac sy'n eich caru chi.

"Mae'r sgyrsiau yna'n anodd i bawb, dydyn nhw byth yn hawdd ... rydyn ni i gyd yn byw yn meddwl na fydd yn digwydd i ni, ond mae'n rhaid i chi feddwl ei fod yn bosib," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhoi gwybod i anwyliaid am fodolaeth ewyllys a sut i gael gafael ar ddogfennau pwysig, drwy rannu cyfrineiriau ar-lein allweddol ymhlith y camau ymarferol mae modd eu cymryd, meddai'r Farwnes Finlay.

Ychwanegodd y dylai pobl drafod eu dymuniadau am eu hangladd a'r opsiynau ar gyfer dathlu bywyd neu alaru mewn ffordd wahanol.

"Rwy'n credu y dylai pawb gael y sgyrsiau hyn," meddai. "Mae pobl yn mynd yn sâl iawn, iawn, nid yw'n union fel cael ffliw neu annwyd."

Ond pwysleisiodd bwysigrwydd cymryd amser i werthfawrogi'r foment a dod o hyd i gysur yn y pethau bach gan gynnwys mwynhau byd natur a sgyrsiau ffon gydag anwyliaid.

Sgyrsiau gonest

Mae'r Gymdeithas Meddygaeth Liniarol (Association for Palliative Medicine) wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gynghori gweithwyr iechyd a gofalwyr ar ddulliau i gynnal trafodaethau gyda chleifion a'u teuluoedd.

Mae'r canllawiau ar gyfer gweithwyr o fewn y maes gofal lliniarol yn nodi bod angen "sgyrsiau gonest" mor gynnar ag sy'n ymarferol ac mae'n rhybuddio bod cleifion sydd â Covid-19 yn gallu mynd yn sâl a dirywio'n eithaf cyflym".

Mae rhai yn credu bod angen dysgu gwersi o brofiad gwledydd eraill sydd wedi'u taro'n wael gan y firws.

Dywedodd Dr Mark Taubert, meddyg gofal lliniarol o Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, ei fod ef a chydweithwyr yn ymwybodol o brofiad meddygon yn yr Eidal, lle mae'r firws wedi achosi dros 8,000 o farwolaethau.

"Ryn ni'n dilyn yr hyn sy'n digwydd yn yr Eidal yn agos ... meddygon yn dweud pa mor dorcalonnus oedd gweld pobl yn marw a bod yn rhaid iddyn nhw gyfyngu ar bwy oedd yn gallu eu gweld," meddai Dr Taubert.

"Nid pawb sydd â ffôn symudol neu iPad gyda nhw yn yr ysbyty fyddai'n eu galluogi nhw i gysylltu â'r teulu.

"Roedd hwn yn un peth roedden nhw'n teimlo y gallan nhw fod wedi'i wneud i'r cleifion hynny gan eu cysylltu â'u teuluoedd a'r gymuned," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Photofusion

Mae staff yn Felindre wedi bod yn rhoi iPads i gleifion eu defnyddio ac mae'r darparwr hyfforddiant ACT hefyd wedi rhoi 10 cyfrifiadur i'r ysby

Yn Hosbis Dewi Sant yn Llandudno mae' prif weithredwr Trystan Pritchard yn dweud eu bod nhw wedi cyfyngu ar bethau o amgylch yr adeilad fel mai dim ond pobl hanfodol sydd yno.

"Ond ar ddiwedd oes mae'n bwysig o hyd ein bod yn cadw cysylltiad cymaint ag y gallwn rhwng cleifion a theuluoedd," meddai.

Ychwanegodd bod pobl wedi bod yn cadw mewn cysylltiad yn electronig gydag anwyliaid, gyda mwy o ddefnydd o dechnoleg.

"Ond does dim byd yn curo cysylltiad corfforol agos ar ddiwedd oes," meddai.ty.