Y daith o Landrindod
- Cyhoeddwyd
Coeliwch neu beidio roedd ddoe yn ddiwrnod o bwys yn hanes Cymru. Yng nghysgod y Covid cafodd y peth fawr o sylw, ond rhith eisteddiad ddoe oedd y tro olaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gwrdd.
Fe fydd yr un bobl yn cwrdd dan yr un amgylchiadau wythnos nesaf ond fel Aelodau o'r Senedd nid Aelodau Cynulliad, a Senedd Cymru/Welsh Parliament fydd enw swyddogol y corff.
Mae'n debyg eich bod yn cofio'r ffrae a fu ynghylch mabwysiadu enw dwyieithog yn hytrach nac un uniaith Gymraeg. Ai ddim trwy'r dadleuon eto ond rwy'n amau taw'r gair "senedd" fydd yn cael ei defnyddio ar lafar yn y ddwy iaith er mwyn gwahaniaethu rhwng Bae Caerdydd a San Steffan.
Pe bai Ron Davies wedi cael ei ffordd fe fyddai'r lle wedi cael ei alw'n senedd o'r cychwyn.
Digon llugoer oedd gweddill ei blaid ynghylch y syniad yna ac fe osodwyd hualau geiriol ar y corff o'r cychwyn. Mae'n debyg taw Jack Straw, yr ysgrifennydd cartref ar y pryd, wnaeth fynnu mai Prif Ysgrifennydd fyddai gan Gymru nid Prif Weinidog a Phwyllgor Gweithredol yn hytrach na Llywodraeth.
Rhodri Morgan wnaeth benderfynu rhoi naw wfft i hynny trwy fabwysiadu'r teitl Prif Weinidog iddo fe'i hun a Llywodraeth y Cynulliad i'w gabinet.
Efallai bod Rhodri wedi dysgu gwers gan y Wladwriaeth Rydd Wyddelig yn hynny o beth ond doedd hyd yn oed Rhodri ddim yn gallu troi'r Cynulliad yn Senedd heb ganiatâd San Steffan.
Y Llywydd, Dafydd Elis Thomas, wnaeth benderfynu mabwysiadu'r enw 'Senedd' ar gyfer siambr newydd y Cynulliad.
Rwy'n siŵr y byddai Dafydd yn gwadu mai ffordd fach slei i uwchraddio'r corff oedd y penderfyniad hwnnw ond mewn gwirionedd, fel yn achos newidiadau Rhodri Morgan, doedd fawr o ddewis gan San Steffan ond ildio i'r realiti ar lawr gwlad.
Yn ôl yn dechrau'r 1950au fe ysgrifennodd Huw T. Edwards, gŵr a adwaenwyd fel 'Prif Weinidog answyddogol Cymru' ar y pryd, daflen ddeifiol yn dwyn y teitl "They went to Llandrindod".
Mae'r daflen yn ddoniol hyd heddiw ond nid am y rheswm yr oedd Huw T. yn bwriadu.
Gwatwar cyfarfod sefydlu'r Ymgyrch Senedd i Gymru oedd bwriad y daflen gan ddirmygu ffolineb Plaid Cymru, Y Rhyddfrydwyr ac ambell i Lafurwr megis S.O. Davies am gofleidio breuddwyd gwrach.
Buodd na erioed taith mwy dibwrpas na'r daith honno i Landrindod ym marn Huw T.
Yr wythnos nesaf fe fydd y taith Lady Megan, S.O., Gwynfor a'r gweddill yn dirwyn i ben.
Y Metropole yn Llandrindod oedd cychwyn y daith honno, nid ei therfyn, a bellach fe fydd gan Gymru nid yn unig Prif Weinidog 'swyddogol' ond hefyd ei llywodraeth a'i senedd ei hun.