Gareth Bale â diddordeb mewn chwarae yn yr Unol Daleithiau

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans agency

Mae ymosodwr Cymru Gareth Bale wedi dweud y byddai ganddo ddiddordeb mewn chwarae yn yr Unol Daleithiau pe byddai'n gadael Real Madrid.

Bu bron i Bale ymuno gyda chlwb Jiangsu Suning o China yr haf diwethaf, ond ni chafodd y trosglwyddiad ei gwblhau.

Ers hynny nid yw wedi bod aelod rheolaidd o dîm Real y tymor hwn, gyda'r dyfalu am ei ddyfodol yn parhau.

"Dwi'n hoff iawn o'r gynghrair," meddai Bale wrth son am gystadleuaeth yr UDA, yr MLS.

"Mae wedi tyfu gymaint. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gynghrair sydd ar i fyny.

"Mae 'na lot mwy o chwaraewyr eisiau mynd drosodd i America a chwarae.

"Yn sicr mi fydde' gen i ddiddordeb."

Cyfraniad ariannol

Daw cytundeb presennol Bale gyda chewri Sbaen i ben yn 2022.

Yn ddiweddar fe wnaeth y Cymro a'i wraig Emma gyfraniad ariannol tuag at elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.

Mae La Liga yn Sbaen ymysg y cynghreiriau sydd wedi eu hatal oherwydd y pandemig, ond mae gobaith ail-ddechrau y tu ôl i ddrysau caeedig ym mis Mehefin.

Yn y cyfamser fe ddywedodd Bale bod Real Madrid yn gyrru rhaglen ymarfer unigol i bob chwaraewr.