'Angen i gynghorau allu benthyg mwy yn sgil y pandemig'

  • Cyhoeddwyd
aled davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywed dirprwy arweinydd Powys, Aled Davies bod toriadau yn bosib

Mae Cyngor Sir Powys eisiau gweld newidiadau mewn deddfwriaeth, fel bod awdurdodau lleol yn gallu benthyg mwy o arian.

Daw hynny wrth iddi ddod i'r amlwg bod yr awdurdod lleol yn gwneud colledion o £3.35m y mis yn sgil y pandemig coronafeirws.

Mewn adroddiad i'r cabinet, daeth rhybudd y byddai'r diffyg wedi dyblu i dros £10m erbyn diwedd mis Mehefin.

Dywedodd dirprwy arweinydd y sir, y cynghorydd Aled Davies, bod y ffigyrau yn "frawychus".

Mae'n credu y bydd rhaid gwneud toriadau ar draws holl wasanaethau'r sir.

'Argyfwng ariannol'

Mewn adroddiad, mae swyddogion Powys yn rhybuddio na fyddai'r cyngor yn gallu cynnal ei hun yn ariannol am y flwyddyn gyfredol nesaf heb gefnogaeth bellach gan y llywodraeth.

Maen nhw hefyd yn trafod y posibilrwydd o roi staff ar gynllun seibiant cyflog y llywodraeth.

Mae'r mater yn gymhleth - staff mewn meysydd cynhyrchu incwm yn unig sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun. Byddai staff craidd y cyngor yn parhau yn eu gwaith.

Mae'n argyfwng ariannol sy'n wynebu pob cyngor sir.

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud fod yr awdurdod wedi colli hyd at £9m o incwm hyd yma oherwydd argyfwng coronafeirws.

Mae Powys yn galw am newid mewn deddfwriaeth, fel bod awdurdodau lleol yn gallu benthyg mwy o arian, mewn ffyrdd gwahanol, yn ystod y pandemig.

Dywedodd y Cynghorydd Davies, sydd hefyd yn ddirprwy arweinydd, bod diffyg yr awdurdod lleol wedi dyblu mewn tri mis.

"Rydyn ni'n wynebu heriau enfawr yn ariannol," meddai.

"Bydd ein cronfeydd wrth gefn wedi cael eu gwario erbyn mis Mehefin a bydd rhaid torri ar draws ein holl wasanaethau.

"Ni allaf weld llywodraeth ganolog yn caniatáu methdaliad y cyngor, ond yn amlwg mae'n rhaid i ni gydbwyso ein llyfrau.

"Rydym yn arbed lle bynnag y gallwn, gan leihau costau."

Effaith yn y cymunedau

Mae cannoedd o weithwyr eisoes wedi cael eu symud o'u gwaith arferol a'u hadleoli i wasanaethau hanfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Davies: "Yr hyn yr hoffwn ei weld yw newidiadau mewn deddfwriaeth, o amgylch rheolau benthyca arian.

"Maen bosib i ni lenwi'r bwlch mewn cyllid yn y tymor byr trwy fenthyca mwy, neu fenthyca'n wahanol. Ond, allwn ni ddim ei dalu'n ôl dros nos. Mae'n mynd i gymryd amser."

Mae CAMAD yn cefnogi unigolion bregus o fewn cymuned Machynlleth, ac mae pryder am effaith toriadau pellach.

Dywedodd Sarah Jones, ar ran CAMAD: "Does ddim lot o arian gyda ni i ddechrau. Dwi'n meddwl ein bod ni'n gweithio i'r eithaf gyda'r hyn o arian sydd gyda ni ar hyn o bryd.

"Mae'n bryder oherwydd heb arian gan gyrff statudol, does dim ffordd i'r gwasanaethau yma barhau.

"Ar hyn o bryd mae pethau'n iawn, ond ymhen ychydig fisoedd, os bydd hyn yn mynd mlaen yn hirach ac yn hirach gallai hynny newid."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Jones o CAMAD yn pryderu am effaith toriadau pellach ym Mhowys

Dywedodd llefarydd ar ran y WLGA: "Mae rôl cynghorau yn hollbwysig yn yr ymateb i'r argyfwng hwn ac mae nhw'n arwain ar ymdrechion lleol i gefnogi cymunedau a thrigolion, ac i leddfu'r pwysau ar y GIG.

"Ond mae cyllidebau dan straen o ganlyniad i effaith cyfunol costau ychwanegol aruthrol a cholli refeniw, a fydd yn bygwth cynaliadwyedd gwasanaethau lleol hanfodol yn y dyfodol."

"Mae'n bwysig bod y sicrwydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cael ei droi i ymrwymiad cadarn er mwyn cwrdd â bylchau cynyddol yng nghyllidebau gwasanaethau lleol."