Jess Fishlock wedi ystyried ymddeol oherwydd anaf pen-glin

  • Cyhoeddwyd
Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess Fishlock wedi ennill 113 cap dros Gymru

Mae Jess Fishlock wedi datgelu iddi ystyried ymddeol o chwarae yn dilyn llawdriniaeth ar ei phen-glin.

Fe gafodd Fishlock, 33, ei hanafu wrth chwarae dros Reign FC yn Seattle yng nghynghrair yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 2019.

Bedwar mis yn ddiweddarach, roedd hi dal mewn poen sylweddol ac fe ddechreuodd gwestiynu os oedd ganddi'r nerth i geisio adennill ei ffitrwydd.

"Nes i ddim sylweddoli pa mor anodd fyddai'r cyfnod wedi'r llawdriniaeth," dywedodd wrth BBC Radio Wales.

"O'n i'n disgwyl bod mewn poen i ddechrau ac wedyn yn gallu dechrau gwneud ambell i beth ar ôl rhyw fis.

"Ond ar ôl tri neu bedwar mis, doeddwn i dal methu cerdded i lawr y grisiau yn iawn. Mae hynny'n gyfnod hir ac roedd o'n dipyn o ergyd."

Anelu am yr Euros

Dywedodd Fishlock, sydd wedi ennill mwy o gapiau nag unrhyw un dros Gymru, fod cefnogaeth ei theulu, ffrindiau a'i chlwb wedi bod yn hanfodol yn ystod y cyfnodau tywyll i adfer ei "chryfder meddwl".

Ac roedd cefnogaeth Rachel Rowe, cyd-aelod o dîm Cymru sydd wedi dioddef yr un anaf, yn amhrisiadwy.

"Roeddwn i mor lwcus i gael Rachel," ychwanegodd Fishlock. "Nes i yrru gymaint o negeseuon ati.

"Chwarae teg iddi, roedd hi fel mentor i mi."

Mae Fishlock yn parhau i wella o'i chartref yn Seattle, dinas sydd hefyd dan gyfyngiadau tan ddiwedd mis Mai oherwydd y pandemig coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Merched Cymru'n trechu Rwsia yn 2018, pan ddaethon nhw o fewn un gêm at gyrraedd Cwpan y Byd

Y nod erbyn hyn, meddai, ydy ceisio cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2021 - sydd bellach wedi symud i 2022 - gyda Chymru.

Mae tîm Jayne Ludlow yn ail yn y grŵp rhagbrofol, gyda chwe gêm yn weddill.

"Bydd pob penderfyniad nawr yn cael ei wneud gyda 2022 ac ymgyrch Cymru mewn meddwl," meddai.

"Dwi wedi bod yn ceisio cyrraedd rowndiau terfynol gyda Chymru drwy gydol fy ngyrfa.

"Dwi eisiau gwneud hynny mwy na dim byd arall a dyna'r cymhelliad sydd wedi helpu fi wella o'r anaf yma."