Cyhoeddi enillydd gwobr Prif Ddramodydd Eisteddfod T
- Cyhoeddwyd
Nest Jenkins sydd wedi ennill gwobr y Prif Ddramodydd yn Eisteddfod T eleni.
Daw Nest yn wreiddiol o Ledrod ger Tregaron, ond bellach mae hi ar ei thrydedd flwyddyn yn astudio'r Gyfraith a'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei gobaith yn y dyfodol yw mentro i fyd darlledu, gan ddilyn cwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth Darlledu y flwyddyn nesaf.
Bu Nest yn gyflwynydd ar Xpress Radio, gan gyd-gyflwyno dwy sioe ar yr orsaf, a chafodd un ei chynnwys ar BBC Radio Cymru am gyfnod.
Roedd hefyd yn Llywydd y Gym Gym, sef Cymdeithas Gymraeg y brifysgol. Gyda'i thrydedd flwyddyn wedi'i thorri'n fyr o achos y pandemig, mae Nest a'i ffrind wedi dechrau podlediad newydd o'r enw 'Cracio'r Corona'.
Mae'n aelod o Aelwyd y Waun Ddyfal ac wedi bod yn hyfforddi'r parti llefaru ers dwy flynedd. Mae'n un sy'n mwynhau eisteddfota ac wedi dod i'r brig yn genedlaethol am ganu'r delyn, piano a llefaru sawl tro.
Roedd y beirniad Hanna Jarman wedi mwynhau'r elfen o fenyw gryf oedd yn y gwaith buddugol.
Dywedodd: "Dwi'n ffan mawr o gymeriadau benywaidd 'anhoffus', menywod sy'n herio sut ma' menyw fod i fihafio, siarad a theimlo. Roedd y darn yn soffistigedig iawn. Cymeriad cryf a doniol."
Mae Nest yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin. Yn ail mae Delyth Evans o Silian ger Llanbedr Pont Steffan, ac yn drydydd mae Sion Wyn Evans o Felinfach, ger Llanbedr Pont Steffan.
Mae Eisteddfod T ar ei thrydydd diwrnod ac yn parhau weddill yr wythnos hon rhwng 27-29 Mai.
Hyd yn hyn, mae 4,000 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 80 o gystadlaethau, gyda mwy o gystadlaethau byrfyfyr yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos medd y trefnwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2020
- Cyhoeddwyd25 Mai 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2019