Corff menyw wedi'i ddarganfod mewn afon yn Llangollen

Cafodd plismyn eu galw i Afon Dyfrdwy yn Llangollen fore Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio wedi i gorff menyw gael ei ganfod mewn afon yn Llangollen.
Cafodd plismyn eu galw tua 08:10 fore Sadwrn ar ôl adroddiadau bod corff wedi'i weld yn Afon Dyfrdwy.
Yn ôl yr Arolygydd Andy Kirkham mae plismyn yn parhau i geisio adnabod y ddynes.
Ychwanegodd nad oeddent yn gwybod eto achos y farwolaeth ond nad oes yna amgylchiadau amheus.
"Rydym yn ymwybodol bod y digwyddiad hwn wedi achosi rywfaint o aflonyddwch i drigolion ac ymwelwyr wrth i ŵyl fwyd gael ei chynnal yn y dref ddydd Sadwrn, a hoffem ddiolch i bawb - gan gynnwys busnesau lleol - am eu hamynedd wrth i ni ddelio â'r digwyddiad trasig hwn.
"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu'r fenyw yn ystod yr amser anodd hwn," meddai.