Galw ar bobl Wrecsam i gau ffenestri a drysau wedi tân
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Wrecsam wedi cael gorchymyn i gau eu ffenestri a'u drysau yn dilyn tân mawr mewn safle tirlenwi yno.
Roedd mwg du trwchus i'w weld yn llifo i'r awyr wrth i'r diffoddwyr tân fynd i'r afael â fflamau yn Chwarel Hafod, Rhiwabon nos Fercher.
Ond mae newid yng nghyfeiriad y gwynt yn golygu fod y mwg bellach yn effeithio ar Wrecsam ei hun.
Aeth pedwar criw i'r afael â'r digwyddiad toc wedi 19:00 ddydd Mercher.
Mae dros 30 o ddiffoddwyr tân yn parhau ar leoliad, ac mae ffyrdd wedi'u cau.
Fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar Facebook bod y cyngor i gau drysau a ffenestri wedi cael ei roi oherwydd y "mwg gwenwynig oedd yn yr aer".
"[M]ae diffoddwyr tân yn dal i ddelio gyda'r digwyddiad ac oherwydd bod cyfeiriad y gwynt wedi newid mae'r mwg nawr yn effeithio ar dref Wrecsam, a chynghorir trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau," meddai.
Dywedodd Jeff Hall, pennaeth safle'r digwyddiad, y bydd diffoddwyr ar y safle "am y 24 awr nesaf yn ôl pob tebyg".
Bydd y digwyddiad yn destun ymchwiliad maes o law.