Mwy yn cefnogi ailagor siopau a dychwelyd i'r gwaith

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Siopa Dewi Sant 2Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Mae 52% yn cefnogi ailagor siopau yn y tair wythnos nesaf

Mae mwy o bobl erbyn hyn yn credu y dylai gweithwyr sydd ddim yn rhai hanfodol ddychwelyd i'r gwaith o fewn y tair wythnos nesaf, ac mae 'na gefnogaeth hefyd i siopau a chanolfannau cymdeithasol ailagor.

Mae'r arolwg, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn nodi mai dynion sydd fwyaf o blaid agor siopau, gweithleoedd a lleoliadau cymdeithasol wrth i'r ofnau am yr haint leihau.

Wyth wythnos yn ôl, dangosodd arolwg bod 64% o bobl yn poeni llawer am golli rhywun i'r feirws. Mae hyn bellach wedi gostwng i 50%.

Ond mae 47% wedi dweud y byddai'n well ganddynt i'r cyfyngiadau bara nes nad oes unrhyw siawns o ddal y feirws ac y mae'r nifer sy'n teimlo'n ynysig "bob amser neu'n aml" wedi aros ar 20%.

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar atebion 611 o bobl rhwng 1-7 Mehefin.

Canlyniadau'r arolwg

  • Mae dros 23% o ddynion yn cefnogi ailagor bwytai, bariau a thafarndai yn y tair wythnos nesaf (dim ond 13% o fenywod sy'n cefnogi hyn)

  • Mae 58% y bobl bellach yn teimlo y dylai gweithwyr nad ydynt yn hanfodol allu dychwelyd i'r gwaith o fewn y tair wythnos nesaf - i fyny o 43% bedair wythnos yn ôl

  • Mae 52% yn cefnogi ailagor siopau yn y tair wythnos nesaf (i fyny o 39%)

  • Byddai'n well gan 47% o bobl i'r cyfyngiadau bara nes nad oes unrhyw siawns o ddal y feirws

  • Mae tua un o bob chwech o ddynion yn cefnogi rhoi terfyn ar gadw pellter cymdeithasol (16%) yn y tair wythnos nesaf ond dim ond tua un o bob 12 o fenywod (8%) sy'n cefnogi hyn

  • Mae cyfran y bobl sy'n poeni 'llawer' am eu hiechyd meddwl a'u llesiant eu hunain wedi gostwng yn ystod yr wythnosau diwethaf o uchafbwynt o un o bob pedwar o bobl (25%) yn poeni llawer am eu llesiant meddyliol ar ddechrau mis Mai i 16% erbyn hyn

  • Mae cyfran y bobl sy'n teimlo'n ynysig 'bob amser' neu 'yn aml' wedi aros ar ryw un o bob pump drwy gydol y cyfyngiadau.

'Angen bod yn ofalus o hyd'

Bob wythnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfweld â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a'r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Mark Bellis o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Wythnos ar ôl wythnos, rydym yn gweld lleihad yn nifer y bobl sy'n pryderu am ddal coronafeirws eu hunain neu golli un o'u hanwyliaid i haint coronafeirws.

"Wrth i'r ofnau ynghylch yr haint leihau, mae'r gefnogaeth i agor gweithleoedd, lleoliadau cymdeithasol ac ysgolion ledled Cymru yn tyfu.

"Mae'r gefnogaeth i agor lleoliadau cymdeithasol ac adloniant yn llawer uwch ymhlith dynion na menywod, er bod y rhan fwyaf o ddynion yn dal i gefnogi peidio ag agor y lleoliadau hyn yn ystod y tair wythnos nesaf."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Mae 58% y bobl bellach yn teimlo y dylai gweithwyr nad ydynt yn hanfodol allu dychwelyd i'r gwaith o fewn y tair wythnos nesaf - i fyny o 43% bedair wythnos yn ôl

Ond wrth i'r pryderon leihau dywedodd yr Athro Bellis ei bod hi'n bwysig cofio nad yw'r feirws "wedi'i ddileu" a'i bod yn hynod o bwysig o hyd sicrhau pellter cymdeithasol.

Ychwanegodd: "Mae cadw pellter cymdeithasol yn dal i fod yn offeryn hanfodol ar gyfer cyfyngu ar ledaeniad y feirws a bydd camau syml fel golchi dwylo nid yn unig yn helpu i atal coronafeirws, bydd hefyd yn lleihau lefelau'r ffliw, gwenwyn bwyd a heintiau arall sydd hefyd yn gwneud llawer o bobl yn sâl bob blwyddyn."