Problem y galon yn gorfodi capten Casnewydd i ymddeol
- Cyhoeddwyd

Mae capten Casnewydd, Mark O'Brien wedi gorfod ymddeol o'r gêm yn 27 oed oherwydd anhwylder ar ei galon.
Dywed y clwb fod yr amddiffynnwr canol o Weriniaeth Iwerddon "angen llawdriniaeth ar y galon a fydd yn ei atal rhag parhau â'i yrfa fel chwaraewr".
Dywedodd llefarydd y bydd y clwb "yn gwneud popeth posib i gefnogi Mark yn y cyfnod anodd yma".
Fe benderfynodd O'Brien ymddeol wedi i sgan ddatgelu bod y falf mochyn gafodd ei osod yn ystod llawdriniaeth i'w galon pan oedd yn 16 oed yn ddiffygiol.
Roedd yn cyfaddef bod hi'n sefyllfa yr oedd wedi bod yn ei ddisgwyl.
"Mae'n benderfyniad sydd wedi bod yn gysgod drosta'i ers 10 mlynedd," meddai wrth BBC Cymru.
"Roedd hi'n benderfyniad a oedd, blwyddyn ar ôl blwyddyn, yn rhywbeth oedd yng nghefn fy meddwl."
Chwaraeodd 127 o weithiau dros yr Alltudion ar ôl ymuno yn Ionawr 2017, gan sgorio'r gôl funud olaf wnaeth atal y clwb rhag syrthio o Adran Dau fisoedd yn ddiweddarach.
Y llynedd bu rhaid i amddiffynnwr arall gyda'r clwb, Fraser Franks, roi'r gorau ar ei yrfa gan amgylchiadau tebyg yn 28 oed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd6 Mai 2017