Carchar am anfon e-bost bygythiol at AS Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 66 oed wedi cael ei garcharu am anfon e-bost bygythiol o gyfrif ffug at yr Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts.
Clywodd y llys yn Llandudno ddydd Mawrth fod David Lowe o'r Felinheli wedi cyfeirio at lofruddiaeth y gwleidydd Jo Cox yn ei neges, a bod Ms Saville-Roberts wedi pryderu am ei diogelwch hi, ei staff a'i theulu.
Dywedodd yr erlynydd James Neary bod neges o "gasineb" gan Lowe wedi crybwyll yr asgell dde eithafol a thwf ffasgaeth.
Ffug enw
Roedd y neges hefyd yn dweud y gallai Ms Saville-Roberts gael ei "dileu".
Plediodd Lowe yn euog o anfon e-bost bygythiol o dan yr enw 'Ann Davies' i gyfeiriad e-bost AS Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan ar 30 Medi'r llynedd.
Cafodd ei garcharu am 18 wythnos, a gosodd y Barnwr Gwyn Jones orchymyn llys yn ei atal rhag cysylltu gyda'r AS.
Dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd gan Lowe unrhyw euogfarnau blaenorol a bod yna broblemau iechyd meddwl.
Roedd wedi cydweithredu gyda'r heddlu pan gafodd ei holi ym mis Hydref.
Ond dywedodd y barnwr wrth Lowe fod Ms Saville-Roberts wedi bod yn "bryderus iawn" am yr e-bost. Roedd Lowe wedi dweud bod ei phroffil cyhoeddus "yn rhy uchel i'ch lles eich hunain".