Ralph Hancock: Garddwr Rockefeller a Margam

  • Cyhoeddwyd

Gyda'r amser ychwanegol sydd wedi bod ar ein dwylo yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn gyfnod o arddio i nifer ohonom ni.

Ond dydi ychydig o domatos neu rosod yn ddim o'i gymharu â llwyddiant un Cymro a wnaeth ei farc yn un o ddinasoedd mwya'r byd yn yr 1930au, drwy gynllunio gardd ar do Canolfan Rockefeller, Efrog Newydd

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com

Ganwyd Ralph Hancock yn ardal y Rhath, Caerdydd, ar 2 Gorffennaf 1893, yn fab i arwerthwr tai.

Mae'n debyg ei fod wedi bod â diddordeb mewn garddio ers ei fod yn wyth oed, ac wedi cymryd rheolaeth o warchod perllan y teulu pan oedd yn 13.

Nid garddwr oedd ei yrfa yn wreiddiol - yn hytrach, bu'n gweithio fel cyfrifydd yn swyddfa ei dad, ac fel brocer yswiriant yn y brifddinas dros y blynyddoedd.

Ond aeth yn fethdalwr ym mis Medi 1921, ac efallai mai hynny oedd y sbardun yr oedd ei angen i newid ei yrfa.

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com
Disgrifiad o’r llun,

Ralph gyda'i feibion, Bramley a Denys

Erbyn 1925, roedd Ralph a'i deulu - ei wraig Muriel, a'i blant, Bramley, Denys, ac yn ddiweddarach, Sheila - yn byw yn Surrey, ac roedd yn gweithio fel garddluniwr.

Cafodd ei gyfle mawr yn 1926, pan gafodd gais i ddylunio ac adeiladu gardd arbennig i'r Dywysoges Fictoria yn ei chartref yn Sir Buckingham.

Mae'n debyg fod y dywysoges yn falch iawn o'i gardd newydd ac yn treulio llawer o'i hamser yno. Fe gyflwynodd Ralph â phin tei deimwnt a saffir fel arwydd o'i gwerthfawrogiad.

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com
Disgrifiad o’r llun,

Y Dywysoges Fictoria yn eistedd yn yr ardd a gynlluniodd Ralph Hancock iddi yn ei chartref yn Iver, Sir Buckingham

Ar draws yr Iwerydd

Yn 1930, gyda'r meibion mewn ysgol fonedd, aeth Ralph a'i wraig a'i ferch ifanc i Efrog Newydd o Lerpwl, gyda'i fryd ar wneud ei ffortiwn.

Er mwyn hyrwyddo ei waith, roedd wedi cyhoeddi llyfryn o'r enw English Gardens in America, ble'r oedd yn disgrifio'i hun fel Garddluniwr i'r Dywysoges Fictoria .

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com

Mae'n amlwg fod y llyfryn wedi gweithio, oherwydd daeth yn fuan yn llwyddiannus iawn, gan gynnal arddangosfeydd o'i waith ac ennill gwobrau mewn sioeau garddio.

Roedd yn gredwr mawr mewn hunan-hyrwyddo. Creodd ardd arddangos fechan ar stryd ger ei gartref yn New Jersey er mwyn denu busnes, ac roedd yn wyneb cyfarwydd fel darlithydd mewn digwyddiadau.

Roedd hefyd yn cymryd mantais o gyfrwng poblogaidd y cyfnod, gan ymddangos ar raglenni radio lleol, yn sôn am ei waith a chynnig tips garddio i'r gwrandawyr.

Ond pinacl ei yrfa ar draws yr Iwerydd oedd derbyn gwahoddiad i gynllunio ac adeiladu gardd do ar lawr 11 Adeilad RCA yng Nghanolfan Rockefeller yn Efrog Newydd, yn 1933.

Cafodd ei galw yn Garden of the Nations, ac roedd yn cynnwys gerddi yn steil gwahanol wledydd, fel Ffrainc, yr Iseldiroedd, yr Eidal, Japan a Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com
Disgrifiad o’r llun,

Gerddi to Ralph yng Nghanolfan Rockefeller o'r awyr

Doedd adeiladu gardd mor gymhleth ar do adeilad ddim yn beth hawdd - cafodd 3,000 tunnell o bridd, 500 tunnell o frics a 2,000 o goed a llwyni eu cludo i'r 11eg llawr unai yn lifft y gweithwyr, neu drwy gael eu llusgo i fyny ochr yr adeilad.

Roedd yn brosiect arbennig o uchelgeisiol - cludodd dyweirch draw o Loegr yn unswydd ar gyfer ei English Gardens, yn ogystal â cherrig o Ardal y Llynnoedd yng ngogledd Lloegr.

Cafodd y gerddi eu hagor yn swyddogol ar 15 Ebrill 1935, a dros y saith mis nesaf, cafodd 87,000 o ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post o'r gerddi trawiadol a adeiladodd Ralph yng Nghanolfan Rockefeller

Yn anffodus, lleihaodd poblogrwydd y gerddi, ac fe gafodd eu cau i'r cyhoedd erbyn 1938, ond bu'n parhau i fod yn lleoliad ar gyfer sioeau garddio a blodau.

Kensington a Margam

Erbyn 1935, roedd Ralph yn ôl yn Lloegr, yn adeiladu gardd do ar gyfer y siop fawr Derry and Toms yn ardal Kensington Llundain, ar ôl i'r perchennog weld ei erddi yng Nghanolfan Rockefeller.

Y gerddi yma oedd y mwyaf o'u bath yn Ewrop.

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post o'r rhaeadr yn yr ardd enfawr ar do siop Derry and Toms

Parhaodd i arddangos ei erddi, ac ennill gwobrau hyd nes i'r Ail Ryfel Byd ddechrau.

Yn ystod y rhyfel, bu'n rhaid i Ralph a'i feibion ymladd, ac yn anffodus, bu farw Denys - rhywbeth na ddaeth Ralph na Muriel fyth drosto.

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com
Disgrifiad o’r llun,

Ralph gyda'r teulu brenhinol yn Sioe Flodau Chelsea yn 1947

Ail-afaelodd yn y garddio wedi'r rhyfel, ac ar sail eu harddangosfa yn Sioe Flodau Chelsea yn 1948, cafodd Ralph a'i fab Bramley eu comisiynu i adeiladu gerddi Twyn yr Hydd, sef tŷ ar dir Parc Margam ger Port Talbot.

Roedd y gerddi yn cynnwys nifer o'r nodweddion roedd Ralph yn enwog amdanyn nhw; waliau cerrig o'r Cotswold, giât gwaith haearn a phwll hardd, yn ogystal â gardd rosod wedi ei hamgylchynu â waliau.

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com
Disgrifiad o’r llun,

Y gardd rosod yn Nhwyn yr Hydd pan gafodd ei hadeiladu gan Ralph, sydd yn cynnwys pwll oedd yn nodweddiadol o'i waith

Dyma oedd un o'r prosiectau mawr olaf y tu allan i Lundain y cafodd Ralph ei gwblhau, oherwydd iddo farw yn sydyn ar 30 Awst 1950.

Gwaddol

Gadawodd nifer o erddi hardd ar ei ôl, er fod nifer ohonyn nhw wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu newidiadau i'r gerddi draw yn Efrog Newydd, gyda'r ardd Japaneaidd yn cael ei datgymalu oherwydd y sefyllfa wleidyddol. Cafwyd nifer o addasiadau i'r gerddi wedi hynny yn ogystal.

Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith adnewyddu wedi cael ei wneud ac maen nhw ar agor i'r cyhoedd eto ers 2018.

Ffynhonnell y llun, Ralphhancock.com
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r giât haearn a'r brics mewn patrwm 'herringbone' gwreiddiol a osododd Ralph yn yr 1930au dal i'w gweld ar do Canolfan Rockefeller hyd heddiw, er fod rhannau eraill o'r gerddi wedi eu dinistro

Stori debyg sydd yng ngerddi Twyn yr Hydd. Mae gwirfoddolwyr yn ddiweddar wedi bod yn ceisio adfer y gerddi dan arweiniad Joyce Hunt, sef wyres un o weithwyr y tŷ yn yr 1950au. Mae Joyce yn ceisio ail-greu'r gerddi hyfryd mae hi'n eu cofio o'i phlentyndod.

Pwy a ŵyr beth fyddai hanes Ralph wedi bod petai wedi cael y cyfle i barhau. Roedd galw mawr am ei waith ac roedd ganddo enw am greu gerddi gwych a thrawiadol.

Ffynhonnell y llun, ralphhancock.com

Yn 2012, cafodd plac ei gosod yn yr ardd do a greodd ar adeilad siop Derry and Toms gynt, bellach yn dwyn yr enw The Roof Gardens. Meddai ei ferch Sheila, pan ddadorchuddwyd y plac:

"Mae gweledigaeth fy nhad o ddefnyddio ei wybodaeth i roi gerddi ar doeau dinasoedd, a darparu hafanau gwyrdd i godi ysbryd, hyd yn oed yn fwy arwyddocaol heddiw, o ran pryderon am iechyd a'r amgylchedd.

"Mae'r ffaith iddo allu gwneud hynny yn nwy o ddinasoedd mwya'r byd, Llundain ac Efrog Newydd, yn brawf o'i dalent a'i ddyfeisgarwch."

Hefyd o ddiddordeb: