Honiadau am 'ymddygiad amhriodol' AS Ceidwadol Delyn

  • Cyhoeddwyd
Rob Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Rob Roberts yn AS llynedd, wedi i'r Ceidwadwyr gipio etholaeth Delyn oddi ar y Blaid Lafur

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol o ogledd Cymru yn wynebu honiadau o ymddwyn yn amhriodol tuag at ddau aelod ifanc o staff yn San Steffan.

Mae BBC Cymru wedi gweld negeseuon gan AS Ceidwadol Delyn, Rob Roberts, yn cynnig "ychydig o hwyl heb ddisgwyliadau" i ddynes 21 oed oedd yn gweithio yn y Senedd.

Mewn negeseuon eraill mae'r Aelod Seneddol 40 oed hefyd yn cyfaddef iddo ddangos diddordeb mewn dyn ifanc oedd yn gweithio yno - digwyddiad wnaeth "greu problemau" i'r gweithiwr.

Mewn ymateb, dywedodd Mr Roberts fod y "misoedd diwethaf a'r broses o 'ddod allan' wedi bod yn arbennig o heriol ac yn achos llawer iawn o straen" iddo.

Mae'r BBC bellach yn cael ar ddeall bod cwyn wedi ei gwneud am ymddygiad Mr Roberts i Gynllun Cwynion Annibynnol y Senedd.

Mae'r blaid Geidwadol hefyd wedi cadarnhau bod ymchwiliad ar y gweill.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr: "Mae ymchwiliad i ymddygiad Rob Roberts AS yn mynd rhagddo. Er fod Mr Roberts wedi ymddiheuro am ei ymddygiad ac wedi bod yn cael hyfforddiant ar ddiogelu a gwarchodaeth cyfryngau cymdeithasol, rydym yn glir fod ymddygiad o'r fath yn gwbl annerbyniol."

'Coesau hyfryd'

Cafodd Mr Roberts ei ethol i San Steffan yn Rhagfyr y llynedd - wedi iddo guro'r ymgeisydd Llafur, David Hanson, oedd wedi dal y swydd ers 1992.

Mewn cyfres o negeseuon at y ddynes 21 oed ym mis Ebrill eleni, fe gyfeiriodd Mr Roberts at ei "choesau hyfryd" cyn cynnig cyfarfyddiad o natur rywiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na honiadau fod yr AS wedi ymddwyn yn amhriodol gyda dau aelod o staff Seneddol

Mewn neges arall mae Mr Roberts, sydd newydd wahanu wrth ei wraig a dod allan yn hoyw, yn dweud wrthi: "Efallai fy mod i'n hoyw, ond dwi'n mwynhau... ychydig o hwyl."

Yn ddiweddarach mae'n awgrymu wrth y ddynes y byddai hi'n hoffi "ychydig o hwyl heb unrhyw ddisgwyliadau. Efallai y doi di i ymweld â fi yn Llundain."

Er na dderbyniodd ateb i'r negeseuon hynny, fe yrrodd yr Aelod Seneddol ragor o negeseuon, un yn dweud wrthi: "Paid â'm hanwybyddu i pan dwi'n trio gwneud i ti deimlo'n well."

Ar ôl iddi ymateb trwy esbonio ei bod hi mewn "sefyllfa wael" a'i bod hi'n dioddef gyda'i iechyd meddwl, dywedodd Mr Roberts ei fod yn trafod cael "ychydig o hwyl" ac "efallai petai ti'n meddwl am hynny hefyd y byddai hynny o help i ti."

'Hollol sâl'

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd y ddynes ei bod hi'n teimlo'n "hollol sâl" yn sgil y negeseuon.

"Ro'n i'n teimlo'n fregus iawn ac ro'n i'n teimlo ei fod yn fy nefnyddio i er mwyn gwneud iddo fe'i hunan deimlo'n well.

"Ro'n i'n teimlo fy mod i mewn cornel. Do'n i'n methu siarad am y peth, rhag i fy enw i gael ei gysylltu â'r peth a 'mod i'n cael y bai am bopeth.

"Mae gwleidyddiaeth yn gallu bod yn wenwynig iawn pan mae'n dod at faterion fel hyn, yn enwedig pan wyt ti'n ferch yn delio gydag Aelod Seneddol. Roedd y peth yn ofnadwy."

Dywedodd nad oedd hi'n "teimlo'n gyfforddus" yn dychwelyd i San Steffan wedi'r digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfres o negeseuon Rob Roberts at y fenyw 21 oed

Mewn cyfres arall o negeseuon sydd wedi dod i law BBC Cymru, mae Rob Roberts ei hun yn cyfaddef iddo ymddwyn yn amhriodol gydag aelod gwrywaidd o staff y senedd - trwy "ddweud wrtho fy mod yn ei hoffi a gofyn iddo ddod am swper," gan arwain at y dyn dan sylw yn newid ei swydd.

"Penderfyniad gwael iawn ar fy rhan i, dwi'n cyfaddef. Wnaeth e ddim ymateb yn dda iawn ac fe greodd hynny broblem iddo," meddai un neges gan Mr Roberts.

Yn ddiweddarach yn y neges mae'n dweud bod "y Prif Chwip wedi ymyrryd. Llawer o ddrama."

Datganiad

Mewn datganiad, fe ddywedodd Rob Roberts wrth BBC Cymru ei fod wedi gwahodd aelod o staff seneddol am swper.

"Ni chafodd fy ngwahoddiad ei dderbyn ac nid oedd yr aelod o staff yn teimlo'n gyfforddus am y peth.

"Rydw i nawr yn sylweddoli ei bod hi'n amhriodol fy mod i wedi estyn y gwahoddiad i aelod o staff yn y lle cyntaf.

"Mae'r misoedd diwethaf a'r broses o 'ddod allan' wedi bod yn arbennig o heriol ac yn achos llawer iawn o straen i fi.

"Mae creu stori ar sail yr achos hwn, rhywbeth sydd wedi ei ddelio ag ef, i'w weld yn fwriadol er mwyn ychwanegu at y straen hwnnw, sy'n achos pryder."