Ci defaid £12,000 o Geredigion yn torri record byd
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr cŵn defaid o Dal-y-bont yn dweud ei fod yn gweld eisiau gast ifanc gafodd ei gwerthu am fwy nag yr un ast arall o dan flwydd oed.
Fe werthodd Dewi Jenkins, 27, y ci defaid 10 mis oed am £12,000 ar fart ar-lein, gan dorri record byd.
Y record blaenorol am gi dan 12 mis oed oedd £7,035.
Mae'r mart yn Sir Gogledd Efrog yn gwerthu ar-lein ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau'r argyfwng coronafeirws.
"Odd hi yn sbeshal am ei bod hi mor ifanc," medd Dewi Jenkins, yn sŵn cyfarth ei gŵn eraill ar ei fferm yng Ngheredigion, "Dwi erioed wedi gwerthu ci o'r safon 'na o dan flwydd oed. Rwy' wedi gwerthu lot o gŵn.
"Rwy' wedi gwerthu un bob mis yn y sêls 'ma am brisiau tebyg. Ond odd hi'n gweithio fel ast dwy oed. Roedd hi mor dda, mor ifanc."
Mae Jet wedi mynd at deulu yn Sir Amwythig, ffermwyr o'r enw Phillip a Sue Wood.
Roedden nhw wedi dod i'w gweld cyn ei phrynu a gwirioni arni, "ac roedd yr ast wedi lico nhw hefyd a dweud y gwir," medd Dewi. "Roedd hi wedi jwmpo mewn i'w cerbyd nhw - eisiau mynd efo nhw! O'n nhw wir wedi'i licio hi, ac wrth gwrs wedi'i gweld hi'n gweithio."
Bydd Jet yn dal ati i weithio ar y fferm yn Sir Amwythig, ac mae Dewi yn siwr y ceith hi ofal da gan bod Mr a Mrs Wood yn cadw'u cŵn yn byw gyda nhw yn y tŷ.
Mae wedi gwerthu dau gi arall am filoedd o bunnoedd yn ystod y cyfnod clo hefyd. Fe werthodd ast mewn mart ar-lein o Ddolgellau am £12,500 ym mis Mai, ac yna ci arall am £12,500.
Prisiau'n uwch
Mae Dewi yn cydnabod bod prisiau cŵn defaid wedi cynyddu yn aruthrol ers y cyfnod clo, ac mae'n gweld bod y dull newydd o werthu ar-lein yn help hefyd ond yn cydnabod gwerth y farchnad draddodiadol hefyd.
"Dwi ddim yn lico gweud e, ond yn dawel bach rwy'n credu bod yna werth i'r mart ar-lein. Mae pawb dros y byd yn cael cyfle i brynu, a'r un un cyfle.
"'Sneb yn cael mantais dros neb arall. Mewn sêl gŵn, mae rhai ar y cae ac eraill ar y ffôn. Ond mae pawb yn yr un sefyllfa fan hyn ac ma' pawb yn cael diwrnod neu ddau i bidio, nid jyst pum munud ar y mwyaf mewn sêls normal."
Mae Dewi yn gobeithio bydd y system werthu yn parhau ar-lein. Mae e'n bwriadu gwerthu'r ci nesaf mewn mart ar-lein o Ddolgellau ymhen tair wythnos, ond heb ddisgwyl y bydd y nesaf yn gwerthu am gystal pris.
Mae'n dweud ei fod yn gweld eu heisiau wedi iddyn nhw fynd, "Mae rhaid i fi gyfaddef bo fi yn gweld eu heisiau nhw, ond mae'n help anferth pan chi'n weld bo nhw'n mynd i gystal cartref.
"Os y'n nhw'n talu cymaint a hynna ma' nhw'n mynd i edrych ar eu hôl nhw. Ond os ydyn nhw'n mynd i gartref da, dwy ddim yn meindio o gwbl.
"Rwy'n cadw cysylltiad, a chlywed bo nhw'n plesio'r perchennog newydd wel, 'sdim byd gwell wedyn!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2016