Dyn yn euog o lofruddio cymydog mewn ffrae dros gi yn cyfarth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 43 oed o Gaerdydd wedi ei gael yn euog o lofruddio ei gymydog, ar ôl iddo gwyno am gi yn cyfarth.
Cafodd Matthew Sheehan ei guro'n ddidrugaredd gan Raymond Burrell, mewn ymosodiad tu allan i'w gartref yn mis Medi 2015.
Cafodd Burrell ei ganfod yn euog o ymosodiad corfforol difrifol yn 2016, a'i ddedfrydu i garchar am oes.
Flwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl treulio dros ddwy flynedd mewn uned gofal dwys, bu farw Mr Sheehan o'i anafiadau.
Cwyno am gi yn cyfarth
Ychydig dros ddwy awr gymrodd y rheithgor i benderfynu'n unfrydol fod Burrell yn euog o lofruddio.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Casnewydd clywodd y rheithgor fod Matthew Sheehan wedi cwyno lawer gwaith wrth Raymond Burrell fod ei gi yn ei gadw'n effro yn y nos gyda'i swn.
Roedd Mr Sheehan wedi sôn wrth eraill am y broblem.
Dywedodd un ffrind, yn dilyn cwynion Mr Sheehan, fod Burrell wedi ei rybuddio, "os fyddi di'n siarad efo fi neu fy nghi fel yna eto, mi ai yn ôl i'r carchar o dy achos di".
Ar 1 Medi 2015, aeth Burrell i fflat Matthew Sheehan yn Adamsdown am 07:00 ar ôl noson o yfed a dathlu mewn carnifal.
Roedd Mr Sheehan, 36, yn dioddef o gyflwr atacsia serebelaidd ac roedd yn gorfod defnyddio ffon i gerdded. Ond ymosododd Burrell arno, gan ei daro yn ei ben a rhannau ucha'r corff.
Dywedodd un llygad-dyst ei fod wedi clywed Mr Sheehan yn gweiddi am help yn ystod yr ymosodiad. Dywedodd hefyd ei fod wedi clywed swn ergydion.
Gadawodd Burrell Mr Sheehan ar ôl yr ymosodiad, ond dywedodd tyst arall ei fod wedi dychwelyd, a disgrifiodd glywed swn ergydion a rhegi eto.
Ond y tro hwn ni chlywodd y tyst Mr Sheehan yn galw am gymorth, dim ond swn griddfan.
Pedwar heddwas i'w arestio
Dechreuodd Burrell redeg pan aeth swyddogion heddlu ar ei ôl, ac mi gymrodd bedwar heddwas a defnydd o nwy CS i gael y diffynydd i mewn i fan heddlu.
Dywedodd Burrell wrth y llys mai amddiffyn ei hun yr oedd o, ar ôl i Mr Sheehan geisio ymosod arno.
Yn y llys, dywedodd swyddog heddlu fod Burrell wedi ysgarthu yng nghefn y fan, a'i fod wedi dechrau taenu'r baw ar waelod ei esgidiau.
Ychwanegodd fod Burrell wedi gweiddi: "Fel hyn mae cael gwared ar dystiolaeth."
Nododd y swyddog fod Burrell wedi dweud "wnewch chi byth gael tyst ar res adnabod. Does neb yn ddigon dewr."
Yn ei amddiffyniad dywedodd Burrell fod y swyddog wedi gwneud camgymeriad.
Anafiadau catastroffig
Dywedodd patholegydd fod Mr Sheehan wedi dioddef nifer o anafiadau mewn patrwm cyson, gan ychwanegu fod y grym a ddefnyddiwyd yn "sylweddol".
Roedd nifer o esgyrn wedi torri ar wyneb Matthew Sheehan, ac roedd ganddo amryw o gleisiau ar ran ucha'r corff.
Clywodd y llys ei fod wedi dioddef "anafiadau catastroffig fyddai'n newid ei fywyd" ac a arweiniodd at ei farwolaeth yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2017
Bydd Burrell yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2016