Plentyn wedi ei achub o'r môr ger Morfa Bychan
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn y môr oddi ar draeth Morfa Bychan yng Ngwynedd.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw toc cyn 15:00 brynhawn Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod y plentyn wedi cael sgubo allan ar gwch gwynt.
Anfonwyd y gwasanaethau brys ac hofrennydd achub o Gaernarfon, cyn i aelodau o'r cyhoedd lwyddo i achub y plentyn.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y plentyn wedi cael eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor am ragor o ofal ar ôl derbyn triniaeth yn y fan a'r lle.