Carchar am chwifio ci ar dennyn cyn ei gicio a'i daro
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei garcharu am chwifio ci uwch ei ben ar dennyn cyn ei daro i'r ddaear, ac yna ei gicio a'i daro.
Fe wnaeth John Trafford, 39 o Fae Cinmel, Sir Conwy, gyfaddef achosi dioddefaint i'r anifail.
Cafodd ei garcharu am 20 wythnos, a'i wahardd rhag cadw ci arall am 15 mlynedd.
Dywedodd y barnwr Gwyn Jones yn Llys Ynadon Llandudno bod yr ymddygiad treisgar yn "fwriadol" a bod yr anifail mewn "poen sylweddol o ganlyniad" i hynny.
Clywodd y llys bod Trafford wedi mynd i banig pan redodd y ci i ffwrdd ohono.
Dywedodd y barnwr bod "lefel y trais" yn gwarantu dedfryd o garchar.
Ni chafodd y ci niwed parhaol ac mae wedi ei gartrefu gyda theulu arall.