Teyrngedau i Anti Ses, un o 'hoelion wyth' Dyffryn Nantlle

  • Cyhoeddwyd
Esyllt Jones DaviesFfynhonnell y llun, Karen Owen
Disgrifiad o’r llun,

Esyllt Jones Davies ar achlysur ei phenblwydd yn 90

Yn 93 oed bu farw un o "hoelion wyth Dyffryn Nantlle" a hyfforddwraig adrodd a llefaru i genedlaethau o blant, Esyllt Jones Davies, neu 'Anti Ses' i nifer.

Fe gafodd ei geni a'i magu ym mhentre' Llanllyfni, ac fe roddodd flynyddoedd maith o wasanaeth i fudiadau lleol a chenedlaethol, yn arbennig i Urdd Gobaith Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Bu cenedlaethau o blant Eryri dan ei gofal wrth iddi hyfforddi adroddwyr a llefarwyr ar gyfer yr eisteddfodau a'r capel, ac fe fu'n gyfrifol am sefydlu Aelwyd yr Urdd ac Adran Bentref Llanllyfni.

Roedd yr Urdd yn bwysig iawn ar ei haelwyd hi a'i diweddar ŵr, Ifan Jones Davies, ac yn 2013 fe gafodd ei hanrhydeddu yn Llywydd Eisteddfod yr Urdd Eryri yng Nglynllifon.

'Dynes y pethe'

Un oedd yn ei adnabod yn dda oedd y cyn-brifathro ac un gafodd ei hyfforddi ganddi, Ken Hughes.

"Yn syml iawn dynes y pethe oedd Anti Ses, ac roedd yr un peth yn wir am ei diweddar ŵr, Yncl Ifan.

"Roedd yr iaith, y capel a diwylliant Cymru yn bwysig iawn i'r ddau, ac mi wnaeth gymaint i genedlaethau o blant y dyffryn, yn wir roedd yn un o hoelion wyth Dyffryn Nantlle.

"Roedd hi yn ddynes ei milltir sgwâr, ond roedd yn adnabyddus dros Gymru gyfan, ac Anti Ses oed hi i bawb."

'Cefnogwr brwd o'r Eisteddfod'

Hyd nes ei hymddeoliad, roedd Mrs Davies yn arwain tîm o stiwardiaid oedd yn gyfrifol am redeg Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol am ddegawdau, ac mae'r Eisteddfod wedi rhoi teyrnged iddi.

"Trist iawn oedd clywed y newyddion am golli Esyllt - neu Ses - Jones Davies.

"Roedd hi'n gefnogwr brwd o'r Eisteddfod, ac yn rhan allweddol o'n tîm stiwardio am flynyddoedd lawer, yn arwain y gwirfoddolwyr yn y Pafiliwn.

"Diolch iddi am ei chyfraniad a'i chyfeillgarwch, ac fe fydd cenedlaethau o eisteddfodwyr yn ymuno â ni heddiw i'w chofio ac i anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei theulu a'i ffrindiau, nid yn unig yn Nyffryn Nantlle ond ar hyd a lled Cymru."