'Cannoedd o swyddi yn y fantol' yn y sector awyr agored
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch yn galw am newid rheolau Covid-19 i ganiatáu i ysgolion aros dros nos mewn canolfannau awyr agored, er mwyn achub y sector a channoedd o swyddi.
Ar hyn o bryd, dydy'r canolfannau ddim yn cael cynnal cyrsiau preswyl i ysgolion, sy'n rhan helaeth o'u hincwm.
Mae disgyblion wedi colli allan ar 1.5 miliwn o ymweliadau addysgol ers mis Mawrth, yn ôl yr Institute for Outdoor Learning, ac maen nhw'n honni bod hynny wedi costio £500m a 6,000 o swyddi.
Dywed llywodraethau Cymru a'r DU eu bod yn adolygu'r rheolau ar deithiau preswyl ysgolion yn rheolaidd.
Poeni am 15,000 o swyddi
Mae'r Institute for Outdoor Learning yn pryderu y gallai'r sector golli pob un o'u 15,000 o staff os nad ydy'r rheolau'n newid.
Mae 'na tua 25 o ganolfannau awyr agored yn Eryri yn unig, ac mae'r perchnogion yno'n pryderu y gallai rhai o'r canolfannau orfod cau.
Dywedodd Ed Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Rhos-y-Gwaliau yn Y Bala: "Ma' rhan fwya' o busnes ni yn dod o Loegr a galla' nhw ddim dod am ddiwrnod, mae'n rhy bell - mae'n rhaid iddyn nhw aros dros nos.
"Ni'n gweithio tipyn bach 'efo ysgolion lleol ond rhyw wythnos neu bythefnos mewn blwyddyn ydy hynny. Dydy o ddim yn ddigon i gadw ni i fynd.
"Mi fasa'n anodd iawn ailsefydlu tase ni'n gorfod cau.
"Mae'r offer yn ddrud iawn, ond y peth mwya' pwysig yw'r staff - yr athrawon sy' gyda ni. Mae'n cymryd rhyw dair i bedair blynedd i gael y sgiliau sydd angen i ddysgu'r holl gampau.
"Ni 'di colli dwy ganolfan yn yr ardal wythnos yma - y staff wedi cael llythyrau diswyddo. Pwy sy' nesa', dwi'm yn gwybod."
Rhan o'r cwricwlwm newydd
Mae 'na ymgyrch a deiseb ar y gweill i geisio achub addysg awyr agored, a pherswadio llywodraethau'r DU a Chymru i ganiatáu grwpiau ysgol i aros dros nos eto.
Ychwanegodd Ed Jones: "Ni'n gobeithio bydd y llywodraethau'n penderfynu y gallwn ni agor ym mis Ionawr.
"Dy'n ni ddim eisiau cael pres o San Steffan, ni eisiau cael agor. Ni 'di dangos bod ni'n Covid-secure a dyna be' sy'n bwysig i ni."
Mae addysg awyr agored yn mynd i fod yn rhan o gwricwlwm newydd Cymru, sydd i fod i ddod i rym yn 2022, felly dadl yr hyfforddwyr ydy bod y canolfannau'n chwarae rhan hanfodol wrth gyflwyno hynny.
Mae Aaron White, sydd wedi mynychu'r canolfannau ers yn blentyn ac wedi caiacio dros Gymru a Phrydain, eisiau i bob plentyn gael yr un cyfle.
"Ma' bod yn yr awyr agored wedi fy helpu i yn yr ysgol," meddai.
"Dwi wedi cael cyfleon i fynd i lefydd fel Norwy a De Affrica i wneud pethau fel dringo a caiacio. Dwi eisiau i blant gael yr un cyfleon a dwi wedi eu cael."
Dilyn y cyngor meddygol diweddaraf
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n parhau i gynghori yn erbyn teithiau addysgol dramor neu gartre' i blant dan 18 oed sydd wedi'u trefnu gan sefydliadau addysg.
"Mae ein canllawiau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd a bydd pob penderfyniad yn y dyfodol i ddiweddaru'r canllawiau yn digwydd o fewn fframwaith ehangach o'r sefyllfa yng Nghymru; yn adlewyrchu newidiadau polisi a chyfraith ehangach, sy'n cael eu llywio gan y cyngor meddygol a gwyddonol diweddara'.
"Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi cefnogi dros 13,000 o fusnesau ar draws Cymru i ddelio ag effaith economaidd coronafeirws, gan warchod dros 100,000 o swyddi.
"Mae cwmnïau o fewn y Sector Awyr Agored wedi bod yn gymwys ar gyfer cefnogaeth o'r gronfa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020