'Amser pryderus' cyn diwedd cynllun ffyrlo dydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Man walking passed closed shopsFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

Bydd y cynllun ffyrlo - sydd wedi bod yn talu hyd at 80% o gyflogau gweithwyr - yn dod i ben ar draws Prydain o ddydd Sadwrn.

Ar ei uchafbwynt ym mis Mehefin, roedd 378,400 o bobl yng Nghymru ar ffyrlo, yn ôl ffigyrau o'r Trysorlys.

Mae'r gefnogaeth ariannol ar gyfer cynllun Llywodraeth y DU wedi ei leihau ers mis Awst.

Yn ei le, bydd cynllun cefnogi swyddi newydd yn dod i rym o 1 Tachwedd.

I Kim Marsh, rheolwr tafarn The Star Inn yn Nhreoes, Bro Morgannwg, roedd ennill ond 80% o'i thâl arferol yn "ergyd sylweddol".

Mae'r cynllun newydd yn golygu y bydd hi a'i phartner, Paul Greaves - sy'n gogydd - yn derbyn 67% o'u tâl arferol os yw eu cyflogwyr ar gau oherwydd cyfyngiadau, neu 73% os ydyn nhw'n gallu gweithio pumed o'u horiau.

"Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i arian ar gyfer ein biliau, mae gyda ni rhent i dalu," meddai.

"'Naethom ni fyw am bedwar mis a hanner ar 80%... Ni wedi defnyddio ein cynilion i gyd.

"'S'neb eisiau pentyrru lan dyled. Mae gennym ni bedwar o blant. Mae Nadolig ar y ffordd. Mae'n amser pryderus ac emosiynol."

Ffynhonnell y llun, Kim Marsh
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kim Marsh a'i phartner wedi bod ar 80% o'u cyflogau ers mis Mawrth y flwyddyn hon

"Fel rheolwr y dafarn, fy swydd i yw rhoi gwybod i weddill y staff am y rheolau newydd a'r cynlluniau. Mae mor ddryslyd, a dyw'r canllawiau heb ddod yn ddigon cyflym a gyda digon o fanylion.

"Mae dal diffyg eglurder am y cynllun newydd. Oes rhaid i ni weithio allan cyfartaledd o oriau ein staff?"

Mae'n broblem yn ôl Ms Marsh, yn enwedig ar gyfer staff sy'n gweithio ar gontractau dim oriau gan fod y dafarn ddim wedi gallu cynnig lot o waith iddyn nhw dros yr haf.

Gofynnwyd i'r Trysorlys am sylw.

Beth oedd effaith ffyrlo yng Nghymru?

Ar ei uchafbwynt ym mis Mehefin, roedd 378,400 o bobl yng Nghymru ar ffyrlo.

Hefyd roedd 108,000 o bobl hunangyflogedig yn derbyn cymorth drwy gynllun gwahanol, cyfanswm o 486,400 o swyddi.

Mae hynny'n tua 40% o weithlu Cymru o 1.2 miliwn o bobl.

O dan y cynllun ffyrlo, roedd Llywodraeth y DU yn talu 80% o gyflogau gweithwyr tra'u bod nhw ddim yn gweithio, hyd at uchafswm o £2,500 y mis i bob person.

Wrth i'r cyfyngiadau lacio roedd llai o bobl ar ffyrlo, gyda 10% o'r gweithlu - o gwmpas 130,000 o bobl - yng Nghymru yn derbyn cymorth erbyn diwedd Awst.

Y sectorau gyda'r gyfradd uchaf o swyddi ar ffyrlo oedd y celfyddydau ac adloniant, gyda 45% o swyddi wedi'u rhoi ar ffyrlo. Yn dilyn hyn roedd swyddi yn y sector lletygarwch, gyda 43% o swyddi wedi'u rhoi ar ffyrlo.

Pobl rhwng 25-44 oed cafodd eu heffeithio'n fwyaf, ond cafodd bobl dan 18 oedd hefyd eu heffeithio'n sylweddol.

Wrth edrych ar awdurdodau lleol, erbyn 31 Awst, yng Nghonwy oedd y gyfradd uchaf o bobl ar ffyrlo - 12% - ac roedd gan Castell-nedd Port Talbot y gyfradd isaf - 8%.

Mae'r cynllun cefnogi swyddi newydd mewn dwy ffurf - un ar gyfer swyddi mewn busnesau sydd wedi gorfod cau am resymau cyfreithiol, a'r llall ar gyfer swyddi mewn busnesau sy'n ei chael hi'n anodd.

Ond bydd pob gweithwyr yn cael llai o arian nag oedden nhw o dan y cynllun ffyrlo.

Mae disgwyl i'r cynllun cefnogi swyddi newydd redeg nes Ebrill 2021.

'Nawr yw'r amser i roi cymorth'

Ar raglen Post Cyntaf dywedodd Dafydd Rhys, ymgynghorydd busnes yn Llundain, bod Banc Canolog Ewrop a'r IMF (International Monetary Fund) yn cynghori gwledydd i beidio poeni am faint dyledion y wlad, gyda'r disgwyl erbyn hyn bod y pandemig gyda ni am fisoedd lawer eto.

"Nawr yw'r amser i roi cymorth, cydnabod y sefyllfa erchyll 'dan ni mewn," meddai. "Ond [mae angen] cynnig tam' bach o weledigaeth a tam' bach o arweinyddiaeth ynglŷn â beth sy'n mynd i ddod yn y dyfodol i ni fel gwlad ac i ni fel cymdeithas."

Mae Llywodraeth y DU, dywedodd, yn "mynd o un peth i'r llall - dyma'r pedwerydd tro i nhw newid y cynllun mewn chwe mis".

Mae hynny, meddai, yn cyferbynnu â'r Almaen, ble mae'r llywodraeth wedi "rhoi sicrwydd i'w gweithwyr am o leia' blwyddyn".