Anodd cynllunio ar gyfer Brexit, medd busnesau
- Cyhoeddwyd
Dydy Llywodraeth y DU ddim yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw hi i fusnesau gynllunio ar gyfer Brexit, yn ôl pennaeth cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru.
Yn ôl Julie-Ann Haines, prif swyddog gweithredol Principality, mae'r sefyllfa'n newid o ddydd i ddydd ac mae angen i'r llywodraeth gefnogi busnesau gyda buddsoddiad.
Cafodd y sylwadau eu gwneud wrth i'r dyddiad cau i gytuno ar y rheolau ar gyfer y dulliau newydd o ymdrin â'r berthynas rhwng y DU a'r UE agosáu, gyda newidiadau'n dechrau ar 1 Ionawr 2021.
Dywedodd llywodraeth y DU eu bod wedi "gwneud paratoadau sylweddol" tra'n annog busnesau i "gymryd camau" i baratoi.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Ms Haines: "Mae'r ansicrwydd o ran Brexit yn ogystal â'r pandemig byd-eang yn golygu bod busnesau'n gwneud eu gorau glas i oroesi.
"Rwy'n credu y byddai'n deg dweud, o ystyried pa mor agos ydym yn awr at y dyddiad cau ac o ystyried sut y mae diffyg eglurder o hyd ar yr hyn sy'n mynd i ddigwydd, y byddech yn disgwyl gweld rhywfaint o effaith i ddefnyddwyr, i fusnesau ac yn wir i'r economi ehangach," meddai.
"Rwy'n gwybod bod busnesau'n meddwl am yr effaith ar eu cadwyni cyflenwi.
"Mae'n galonogol iawn clywed bod nifer o frechlynnau posib bellach ar gael ond mae'n debyg na fyddwn ni'n gweld budd rheini yn y tymor byr.
"Er ein bod wedi gweld marchnadoedd stoc yn ffynnu yn sgil y rheini, y realiti i'r rhan fwyaf o fusnesau yw bod y dyfodol yn ansicr yn y byr dymor. Hefyd mae disgwyl bydd cynnydd mewn diweithdra yn parhau drwy ddiwedd y flwyddyn hon i'r flwyddyn nesaf. Mae'n siŵr y gwelwn ddirwasgiad dwbl yn taro economi'r DU."
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU: "Rydym yn gwneud paratoadau sylweddol ar gyfer y newidiadau ar ddiwedd y cyfnod trosglwyddo, gan gynnwys buddsoddi £705m mewn isadeiledd, staffio a thechnoleg ar y ffiniau, darparu £84m mewn grantiau i hybu'r sector tollau a gweithredu rheolau ffiniau fesul dipyn fel bod gan fasnachwyr ddigon o amser i baratoi.
"Gyda llai na 50 diwrnod i fynd, mae'n hanfodol bod busnesau hefyd yn cymryd camau i baratoi am y newidiadau i ddod. Dyna pam yr ydym yn dwyshau ein trafodaethau gyda busnesau ac yn rhedeg ymgyrch wybodaeth gyhoeddi fel eu bod yn gwybod yn union beth sydd angen ei wneud i fod yn barod yn y flwyddyn newydd.
"Dylai pob busnes fynd i safle gov.uk/transition i ganfod beth sydd angen ei wneud."
Ffynnu yn sgil Covid
Mae Tayna Batteries o Abergele, sy'n arbenigo mewn gwerthu batris ceir ar-lein, yn cyflogi 80 o staff ac mae gan y cwmni drosiant o £15m.
Mae amgylchiadau'r pandemig wedi arwain at dwf cyflym o fewn y cwmni, gyda gwerthiant yn dyblu wrth i fwy o bobl fynd ar y rhyngrwyd i brynu nwyddau.
Eglurodd cyfarwyddwr y cwmni, Sam Taylor, fod gwerthiant wedi cynyddu 100% ym mis Mawrth 2020 o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol yn bennaf "gan nad oedd ceir pobl yn dechrau".
"Wedi hynny, fe setlodd i lawr ond rydym yn dal i fod tua 50% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a does dim arwydd fod hynny'n mynd i stopio. Yn ystod misoedd Mai a Gorffennaf fe gyflogon ni wyth aelod o staff newydd."
Mae Tayna Batteries bellach yn bwriadu ehangu'r busnes ac maen nhw newydd brynu warws arall ym Modelwyddan.
"Rydyn ni'n gobeithio cyflogi o leiaf 50 o staff eraill yn y ddwy i dair blynedd nesaf," ychwanegodd Mr Taylor, a dywed nad oes llawer y gall ei wneud i baratoi ar gyfer Brexit.
'Cynllunio ar gyfer y gwaethaf'
"Rydyn ni'n cynllunio cymaint ag y gallwn ond tan i ni gael canllawiau clir gan y llywodraeth ynglŷn ag a fydd cytundeb ai peidio rydym yn gyfyngedig yn yr hyn y gallwn ei wneud.
"Rydym yn cynllunio ar gyfer y gwaethaf ond yn gobeithio am y gorau, a'r gorau i ni yw cael cytundeb ar waith lle na fyddai unrhyw waith papur ychwanegol er mwyn cadw'r llif dros y ffin mor llyfn â phosib.
"Efallai y byddan nhw'n dod i gytundeb rywbryd ond mae'n edrych fel bod amser yn brin. Mae gennym archebion stoc fawr yn dod i mewn ym mis Rhagfyr i geisio lleddfu unrhyw broblemau a allai ddigwydd gydag oedi yn y porthladd neu unrhyw dariffau ychwanegol posib.
"Mae cytundebau masnach rydd gyda Thwrci drwy'r UE a Fietnam ac os nad yw'r cytundebau hynny'n cael eu trefnu'n eithaf cyflym rhwng y DU a Thwrci a Fietnam bydd cynnydd o 3.7% ar ein nwyddau sy'n dod i mewn i'r wlad," ychwanegodd Sam Taylor.
Pleidleisio i adael yr UE
Dywed Alan Brayley, Llywydd Clwb Busnes Bae Abertawe a pherchennog AB Glass Doors a Windows ei fod yn teimlo'n "gadarnhaol" am ddyfodol busnesau yn yr ardal.
Parhaodd y cwmni i weithgynhyrchu yn ystod dau gyfnod clo 2020.
"Mae'n rhaid i rywun gadw'r economi'n tician ac rydym yn teimlo'n falch ein bod yn gwneud hynny," meddai Mr Brayley.
Eglurodd y dyn busnes ei fod wedi sylwi ar brinder cynnyrch ond nad oedd yn siŵr a achoswyd hynny gan wledydd Ewrop yn paratoi ar gyfer Brexit neu'r pandemig.
"Mae p'un a oes gennym gytundeb yn bryder mawr.
"Mae wedi bod yn anodd iawn i fusnesau baratoi. Does dim sicrwydd wedi bod ers blynyddoedd. Mae'n mynd ychydig yn haws."
"Rwy'n credu bod y ffocws wedi bod ar y feirws a chadw hwnnw dan reolaeth. Mae ein holl bolisïau wedi newid - o boeni am Brexit i boeni am yr hyn y mae angen i ni ei wneud o ddydd i ddydd i gadw'r busnes yn rhedeg."
"Mae'r ffocws wedi bod ar Covid, nid Brexit, ond erbyn hyn mae Brexit yn dod ac mae angen i ni ddechrau symud y ffocws yn enwedig os oes brechlyn addawol - er na fyddwn yn ei weld efallai am chwe mis.
"Pleidleisiais i, i adael yr undeb. Rwy'n dal i gredu y dylem adael ond rwy'n meddwl oherwydd Covid y dylem wneud cais i estyn y cyfnod pontio gan ein bod ni wedi colli amser.
"Byddai'n well gen i adael gyda chytundeb, neu ryw fath o fargen na dim bargen o gwbl oherwydd bydd hynny'n ddyfodol ansicr," medd Mr Brayley.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020