Caernarfon yn seiliedig ar Avebury a Chôr y Cewri?
- Cyhoeddwyd
Mae cylchoedd cerrig Côr y Cewri ac Avebury yn Swydd Wilton (Wiltshire) yn fannau twristiaeth fyd-enwog ac yn llefydd hudolus a dirgel i lawer.
Cafodd Avebury ei godi tua 2,600 o flynyddoedd cyn Crist yn ystod Oes Newydd y Cerrig, ac mae Côr y Cewri hyd yn oed yn hŷn gan ddyddio i 3,650 o flynyddoedd cyn Crist yn ôl arbenigwyr.
Ond wyddoch chi fod honiad am gysylltiad rhwng tref Caernarfon a'r mannau hanesyddol hyn?
Wythnos yma roedd rhaglen Cofio ar BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i un theori fod muriau Caernarfon wedi eu gosod ar gynllun Avebury a Chôr y Cewri.
Dywedodd y pensaer Harries Thomas: "1979 oedd hi pan oedd y Cyngor Sir yn adeiladu Pencadlys newydd tu ôl fy nhŷ i.
"Roedd rhaid imi fesur y tŷ a sylweddoli bod o'n rhan o hanner burgage (eiddo ar dir y goron). Dyma darn o dir a roddodd Edward I i bobl oedd yn setlo yng Nghaernarfon, ac mae 64 ohonyn nhw oherwydd bod y tai yn 64 swllt."
Darlledwyd y sgwrs gyda Harries Thomas am y tro cyntaf yn 1987: "Es i ati wedyn i ddarganfod lle'r oedd y 64 burgage 'ma, ac yna lle'r oedd Edward I wedi rhoi'r pegiau lawr i adeiladu'r castell.
"Pan o'n i'n gwneud hyn nes i ddigwydd prynu llyfr 'Stonehenge decoded' gan yr Athro Gerald Hawkins, a llyfr arall am y cerrig gan yr Athro Fred Hoyle."
Mae cysylltiadau Cymru gyda Chôr y Cewri yn eitha' adnabyddus gan fod arbenigwyr yn credu fod nifer o'r cerrig wedi eu cludo yno o Fynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru. Mae rhai o'r cerrig yng Nghôr y Cewri'n pwyso hyd at 35 tunnell.
Wedi iddo wneud dipyn o ymchwil fe honodd Harries Thomas bod, yn ogystal â chartref cychwynnol y cerrig eu hunain, mae cysylltiad arall rhwng y strwythurau hynafol a Chymru.
"Nes i sylwi bod cysylltiadau onglau rhwng Stonehenge a Chaernarfon. Yn fy marn i, er bod neb arall falle wedi gweld e, dwi'n meddwl bod Caernarfon yn rhan o hen gylch cyn-hanesddyol sydd yr un maint ac Avebury, y cylch sydd yn ymyl Stonehenge."
"Cylch efo ffos o'i gwmpas, ac mae'r un peth yn berthnasol i Stonehenge, Avebury ac i Gaernarfon - mae ffos o gwmpas Stonehenge, ffos o gwmpas Avebury ac mae ffos o gwmpas Caernarfon."
"Os ewch chi lawr wrth ochr Gaernarfon tuag at y môr ac Eglwys Santes Fair, fe welwch chi wrth edrych yn ôl ar y waliau eu bod wedi eu codi 30 troedfedd, yr un fath ac Avebury ar ben bryn neu boncyn. A hwn yn fy marn i ydi'r cylch a adeiladodd Caernarfon arno, a bod Edward I wedi adeiladu'r wal ar ben y boncyn. Mae'n gwmws yr un patrwm - yn wahanol faint ond yn gylch tebyg."
Un o'r syniadau mwyaf poblogaidd yw mai derwyddon a gododd y cerrig - theori gafodd ei gynnig yn 1649 gan yr hynafiaethydd John Aubery ac sy'n boblogaidd hyd heddiw.
Mae Côr y Cewri yn denu dros 1.5m o ymwelwyr yn flynyddol, ac mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986.
Mewn cyd-ddigwyddiad yn 1986 gosodwyd castell a muriau Caernarfon ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.
Hefyd o ddiddordeb: