Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-0 Huddersfield
- Cyhoeddwyd
Sgoriodd Kieffer Moore ddwy o dair gôl Caerdydd nos Fawrth i godi tri safle yn y Bencampwriaeth wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Huddersfield.
Yr ymwelwyr gafodd y gorau o'r meddiant yn yr hanner cyntaf, ond Caerdydd gafodd y cyfleoedd gorau i sgorio.
Aeth ergyd gan Sheyi Ojo dros y postyn, peniad gan Sean Morrison o gic gornel Joe Ralls ochor anghywir y rhwyd, a daeth Mark Harris o fewn modfeddi i sgorio o fflic ymlaen gan Moore.
Roedd yna hefyd apêl ofer gan Morrison am gic o'r smotyn.
Ond fe rwydodd Moore i roi'r Adar Gleision ar y blaen wedi 35 o funudau. Cysylltodd â phas gan Sheyi Ojo i'r cwrt cosbi o'r ochr chwith, sleifio tu ôl i'r amddiffyn ac ergydio o chwe llath.
1-0 felly roedd hi ar yr egwyl a Huddersfield ond wedi cael un ymgais agos.
Eto i gyd, nhw oedd â mwyafrif y meddiant eto yn yr ail hanner, ac fe wnaethon nhw lwyddo i gadw'r pwysau ar Gaerdydd.
Fe rwydodd Moore am yr eildro wedi 68 o funudau, yn dilyn camgymeriad gan y gwrthwynebwyr.
Gôl yr eilydd, Robert Glatzel, gyda phum munud yn weddill, wnaeth selio'r fuddugoliaeth.
Ar ôl ennill dwy gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf y tymor hwn, mae Caerdydd wedi codi o'r 14eg i'r 11eg safle, ac maen nhw bellach â 20 o bwyntiau.