Cam ymlaen i gynllun ysgol newydd Y Trallwng
- Cyhoeddwyd
Fe all cynllun i adeiladu safle newydd i Ysgol Gymraeg Y Trallwng symud ymlaen ar ôl derbyn caniatâd cynllunio.
Cafodd yr ysgol ei sefydlu yn 2017 yn dilyn ad-drefnu ym Mhowys.
Roedd bwriad i ddymchwel hen adeilad Ysgol Maesydre er mwyn creu'r safle newydd, ond roedd rhaid ail-feddwl ar ôl i gorff cadwraethol CADW ymyrryd.
Dan y cynllun newydd, fe fydd yr adeilad rhestredig yn cael ei hadnewyddu, yn ogystal ag adeiladu estyniad newydd.
Dywedodd Cyngor Powys y bydd lle i 150 o ddisgyblion pan fydd yn barod.
Bydd yr adeilad newydd yn "cynnig amgylchedd dysgu a fydd yn caniatáu i ddysgwyr a staff addysgu ffynnu a chyflawni eu potensial trwy gyfrwng y Gymraeg", yn ôl yr aelod cabinet, Phyl Davies.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd4 Medi 2017