Ansicrwydd am waith tymhorol yn Ewrop wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae pobl o Gymru sy'n gweithio dramor yn y diwydiant sgïo yn dweud bod "dim syniad" gyda nhw a fyddan nhw'n medru mynd y tymor hwn.
Mae cyfuniad o Brexit a chyfyngiadau Covid mewn nifer o wledydd Ewropeaidd yn golygu bod staff o Brydain sy'n gobeithio gweithio yn y canolfannau sgïo yn ansicr ynglŷn â phryd a sut y gallan nhw fynd.
Mae 25,000 o bobl o Brydain yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, yn hyfforddwyr, gyrwyr, gofalwyr, yn Ewrop bob blwyddyn yn ôl Seasonal Businesses in Travel, sy'n cynrychioli 200 o gwmnïau.
Mae Sophie Williams o'r Felinheli wedi gweithio mewn bar yn yr Eidal ers chwe blynedd ac fel arfer mi fyddai'n teithio yno ganol Rhagfyr.
"Mae'r diffyg gwybodaeth yn poeni pobl" meddai.
"Especially efo Covid, mae pobl yn meddwl 'di o jyst ddim yn mynd i ddigwydd'.
"Mae bos fi'n deud bod gen i job ar y funud, ond maen nhw'n meddwl am beidio agor tan fis Ionawr."
Bydd gan weithwyr sy'n teithio i'r canolfannau sgïo cyn diwedd y cyfnod trosglwyddo hawl i aros a gweithio, ond o 1 Ionawr gallai'r amodau amrywio o wlad i wlad.
Yn ôl Seasonal Business in Travel (SBiT), gallai swyddi fod o dan fygythiad, yn enwedig ymhlith pobl 18-34 oed.
"Mae'r grŵp yma wedi ei effeithio'n waeth gan y pandemig o ran swyddi ac maen nhw'n wynebu colli cyfleoedd hyfforddi a swyddi yn y sector teithio os na fydd cytundeb, a hyd yn oed os bydd cytundeb oni bai ei fod yn darparu ar gyfer pobl ifanc yn benodol."
Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, bydd y tymor yn dechrau'n hwyr yn Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal.
"Roeddem ni'n darogan colli swyddi a chynnydd mewn prisiau gwyliau. Mae hyn i gyd yn cael ei waethygu gan y pandemig a diffyg cytundeb."
Mae pobl o Gymru'n gwario £792m ar wyliau tramor bob blwyddyn, gan greu 12,373 o swyddi yng Nghymru a chyfrannu £639m i'r economi (GVA), yn ôl y corff masnach ABTA.
Mae Bedwyr ap Gwyn yn rhedeg cwmni gweithgareddau awyr agored Pellennig ac yn treulio hyd at ddau fis y flwyddyn yn arwain teithiau eirafyrddio yn yr Alpau.
"O'r 1 Ionawr ymlaen, 'sgen i ddim syniad beth yw'r broses newydd yn mynd i fod o ran hawliau, o ran teithio, o ran gweithio."
"Dwi'n gwybod o ran Covid, fydd y tymor ddim yn dechrau fel mae fod i ddechrau.
"Ydw i'n gallu rhedeg fy musnes? Dwi'm yn meddwl fydda i oni bod cytundeb a bod o'n eglur yn reit fuan beth mae'r cytundeb yna'n golygu o ran beth mae'n rhaid i fi wneud o ran gweithredu yno.
"Os oes 'na gynnydd mewn prisiau? Ydan ni' gallu absorbio nhw mewn i'r busnes? Neu ydy o'n mynd yn rhy ddrud i'r cleient?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd28 Awst 2020