Côr yr Uned Gofal Dwys: Y frwydr am rif un yn y siartiau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BethanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Bethan Gibson ei bod hi wedi elwa o gymryd rhan

Mae dros 100 o weithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd yn gobeithio am lwyddiant yn y siartiau cerddoriaeth y Nadolig yma.

Côr rhithiol i staff unedau gofal dwys ysbytai Prydain yw'r ICU LibertySingers.

Maen nhw wedi recordio fersiwn o Every Breath You Take gan The Police, er mwyn codi arian ar gyfer cronfa les y gwasanaeth iechyd.

Mae'r côr wedi bod yn ymarfer dros yr wythnosau diwethaf ar Zoom, gydag aelodau yn ymuno o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Fe gafodd y côr ei ddechrau gan Kari Olsen Porthouse.

Ei bwriad hi oedd cynnig mwynhad a hwyl i staff yr unedau gofal dwys sydd wedi cael profiadau heriol yn sgil Covid-19.

"Mae gen i brofiad o'r uned gofal dwys," meddai Kari.

"Roedd Mam yn yr uned flwyddyn ddiwethaf. Mae gen i ffrind sy'n feddyg ac fe ddywedodd hi fod morâl yn isel ar hyn o bryd yn sgil yr ail don o Covid-19.

"Roeddwn i eisiau creu poced o hapusrwydd i'r staff a rhywbeth neis iddyn nhw 'neud."

'Effaith mor bositif'

Un o'r rhai sydd wedi bod yn rhan o'r ymarferion yw Dr Bethan Gibson o Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn," meddai Dr Gibson.

"Dwi'n cofio'r noson gyntaf [o ymarferion y côr], nes i ddod adre o'r gwaith wedi blino. O'n i'n hwyr.

"O'n i wedi cael diwrnod weddol galed yn y gwaith. Roedd eithaf lot o gleifion yn marw felly, o'n i'n weddol drist yn dod mewn.

"Dwi'n cofio dweud wrth fy ngŵr: 'Dwi ddim yn mynd i neud e heno. Fi ddim yn y mood i neud e.' Nath e ddweud i jyst trio fe… Ar ddiwedd yr awr, o'n i yn canu ac yn hapus. Fi'n shocked fod e 'di cael effaith mor bositif."

MichelleFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dr Michelle Smalley: 'Ymarferion yn cynnig awr sy'n hoe i'r meddwl'

Yn ôl Dr Michelle Smalley, seicolegydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae'r ymarferion wythnosol wedi bod o les i nifer.

"Mae 'na deimlad o undod a theimlad o berthyn," meddai Dr Smalley.

"Rydym yn gwybod bod canu a cherddoriaeth yn dda i'n lles ac iechyd meddwl. Mae'r ymarferion yn cynnig awr sy'n hoe i'r meddwl er mwyn gallu ymlacio."

Nid bwriad y côr oedd anelu ar gyfer y siartiau i ddechrau ond wedi ambell sesiwn ymarfer, fe gafodd y syniad ei grybwyll.

"Y nod i fi oedd cael amser da, i greu teimladau hyfryd. Fyddai cael rhif un yn y siartiau Nadolig yn wych, wrth gwrs, ond i fi, mae ein gwaith da wedi ei gwblhau yn barod."

I'r cantorion, fyddai rhif un yn y siartiau yn hwb enfawr i forâl, yn enwedig wrth i nifer y cleifion sydd wedi eu heintio â Covid-19 gynyddu.

"Fyddai'n gwbl anhygoel," meddai Dr Gibson. "Dwi'n meddwl bod lot o bethau positif wedi dod mas o'r côr, hyd yn oed os dydyn ni ddim yn cael e. I fi, yn bersonol, mae e 'di bod yn rhywbeth positif."

Bydd y gân yn cael ei chyhoeddi ddydd Gwener, 19 Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig