51 oed â dementia: 'Teimlo ar goll yn ystod y cyfnod clo'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Amanda Quinn a Bethany KingsleyFfynhonnell y llun, Bethany Kingsley
Disgrifiad o’r llun,

Amanda Quinn, gyda'i merch 23-oed, Bethany, sy'n gofalu amdani

"Mae'n teimlo fel cael eich cosbi am rywbeth na wnaethoch chi."

Mae byw trwy gyfnod clo pan rydych eisoes yn dygymod â dementia yn gymharol ifanc yn "ddychrynllyd" medd Amanda Quinn, sy'n dweud ei bod yn "teimlo ar goll".

Cafodd wybod bod dementia arni ddwy flynedd yn ôl, yn 49 oed, yn wraig ac yn fam i bedwar o blant.

Yn ôl gweithiwr cefnogaeth gyda Chymdeithas Alzheimer's Cymru, Lorraine Davies mae'r cyfnodau clo wedi creu "synnwyr o golled fawr" i lawer o deuluoedd.

Ers ei diagnosis, dywed Amanda nad yw'n gwybod pa ddiwrnod yw hi, mae'n cael trafferth canolbwyntio, ac yn cael trafferth siarad ar brydiau.

Wedi'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, ni adawodd Amanda ei chartref yn Nhreorci, yn Rhondda Cynon Taf, am wythnosau.

Mae ei phlant wedi nodi "newid mawr" ynddi, meddai.

"Ro'n i'n arfer bod â synnwyr digrifwch direidus," meddai. "Mae e dal gen i, ond dyw e ddim fel oedd e."

Mwy poenus, meddai yw "colli gymaint o ffrindie" sy'n "croesi'r ffordd" i osgoi siarad â hi.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod sut i ymwneud â mi mwyach," meddai.

'Fel plentyn'

Ei merch 23 oed, Bethany Kingsley, sy'n gofalu amdani. Mae'r pandemig wedi cynyddu'r gorchwyl hynny'n sylweddol, meddai.

Ffynhonnell y llun, Family Photo
Disgrifiad o’r llun,

Amanda'n magu ei merch ifanc - Bethany bellach sy'n gofalu am ei mam

"Rhaid cadw golwg arni'n amlach nawr, oherwydd dyw hi ddim yn gwybod beth i wneud gyda'i hun," meddai.

"Ond rhaid imi ofalu am fy iechyd meddwl fy hun hefyd. Mae yna ddyddiau sy'n frwydr."

Dywed Amanda, sy'n treulio'i hamser yn llenwi llyfrau lliwio, coginio gyda Bethany a gwylio ffilmiau: "Mae fel bod yn blentyn.

"Mae fy merch yn dweud ein bod wedi cyfnewid rôl... hi yw'r oedolyn, mae'n dal fy llaw wrth inni groesi'r ffordd.

"Er 'mod i'n gallu gweld car, dyw e ddim yn croesi fy meddwl nad yw'n ddiogel i gerdded o'i flaen. Oll sydd ar fy meddwl yw 'mod i angen bod ochr arall y ffordd."

Cyn y pandemig, roedd yn mynychu cyfarfodydd grwpiau cefnogaeth, ond mae'r rheiny nawr yn cael eu cynnal ar-lein.

Ffynhonnell y llun, Alzheimer's society
Disgrifiad o’r llun,

Gwenu er yr heriau - rhaid i Amanda a Bethany wneud y gorau mewn cyfnod heriol

Penderfynodd Bethany cyn y pandemig i wneud cwrs iechyd a gofal cymdeithasol o adref gyda'r Brifysgol Agored, yn hytrach nag astudio ym Mryste i fod yn fydwraig.

Roedd yn benderfyniad "anodd", ond roedd yn falch ei bod adref i ofalu am ei mam yn ystod y pandemig.

Ond mae Amanda'n poeni am yr effaith bosib ar ei theulu petai'r cyflwr yn gwaethygu.

"Rwy'n ffodus, debyg, oherwydd fydda'i ddim yn gwybod. Rwy'n dweud nad ydw i mo'yn mynd i gartref gofal ond fydde hynny'n annheg arnyn nhw. Mae gyda nhw'u bywydau o'u blaenau."

Effaith 2020

Mae stigma a diffyg ymwybyddiaeth o hyd o ran pobl gymharol ifanc a dementia, medd Lorraine Davies, sy'n rhoi cefnogaeth arbenigol i bobl iau ar ran Cymdeithas Alzheimer's Cymru.

"Mae rhai â morgeisi, rhai â theuluoedd ifanc, yn aml maen nhw hefyd yn gofalu am bobl hŷn, felly mae'r cyflwr yn effeithio arnyn nhw'n wahanol.

"Dyw llawer o bobl sy'n byw gyda dementia ddim wastad yn teimlo bydd gyda nhw 'flwyddyn nesa'," meddai. "Felly mae 2020 wedi creu synnwyr o golled fawr iddyn nhw oherwydd y cyfnodau clo a'r cyfyngiadau."

Ffynhonnell y llun, Alzheimer's Society
Disgrifiad o’r llun,

Pobl sy'n cael diagnosis dan 65 oed sy'n cael eu hystyried yn bobl iau â dementia

Dywed yr elusen fod rhwng 2,000 a 3,000 o bobl iau â dementia yng Nghymru, yn ôl ystadegau strategaeth dementia genedlaethol gyntaf Llywodraeth Cymru yn 2018.

Ond mae'r gwir ffigwr yn debygol o fod yn uwch, medd Lorraine, gan fod hi'n gallu cymryd dros flwyddyn i gadarnhau diagnosis yn achos person iau.

Mae person iau hefyd yn fwy tebygol o gael mathau mwy prin o'r cyflwr, sy'n achosi newidiadau ymddygiad neu drafferth llefaru yn hytrach na cholli'r cof, ac felly mae pobl yn meddwl eu bod dan straen, neu mewn rhai achosion, yn feddw."

Dywed Simon Hatch, cyfarwyddwr elusen Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, fod yn pandemic wedi tanlinellu "rôl allweddol gofalwyr di-dâl".

Mae'r ymddiriedolaeth, meddai, wedi canfod fod 44% o oedolion ifanc sy'n gofal am rywun yn teimlo bod y pwysau arnyn nhw yn eu llethu.

Dywedodd bod yna gefnogaeth i ofalwyr ond bod angen cefnogaeth "gynaliadwy" yn y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig