Adran Dau: Cheltenham 1-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Chwaraeodd Storm Christoph ran allweddol yn y gêm rhwng Casnewydd a Cheltenham nos Fawrth.
Sgoriodd golwr Casnewydd, Tom King, efo cic gôl wedi 12 munud, gyda dipyn o help gan y gwynt cryf oedd yn hyrddio o gwmpas Stadiwm Jonny-Rocks, cartref Cheltenham.
Ond y tîm cartref oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o'r chwarae, a gyda phum munud o amser ychwanegol ar y cloc ar ddiwedd yr hanner cyntaf, sgoriodd Matty Blair i'w gwneud hi'n 1-1.
Gyda'r gwynt yn dal i achosi problemau i'r ddau dîm, roedd yr ail hanner yn ddigon di-fflach
Mae'r canlyniad yn golygu fod Caergrawnt yn disodli Casnewydd ar frig yr Ail Adran, ar ôl ennill o 2-1 oddi cartref yn Southend.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2020