Cysgodi ar fynyddoedd Eryri diolch i'r Cofis

Mae Malcolm Bee (chwith) ac Ed Griffiths wedi adeiladu 14 o gysgodfannau yn barod
- Cyhoeddwyd
Does dim byd gwell na chyrraedd copa unrhyw fynydd a chael paned o de neu goffi i dorri syched.
Ond dyw hynny ddim yn hwyl yng nghanol yr elfennau. Ond, diolch i ymdrechion dau o Gaernarfon, mae posib gwneud hynny mewn llochesau ar gopaon rhai o fynyddoedd Eryri.
Mae Malcolm Bee ac Ed Griffiths yn ddau Gofi sydd wrth eu boddau yn troedio mynyddoedd Eryri.
Ers rhai blynyddoedd bellach maen nhw wedi mynd ati i adfer rhai o lochesau copaon Eryri, ac mewn ambell i achos, adeiladu cysgodfa o'r newydd.
'Fel castell bach'
Copa Moel Eilio oedd y lloches gyntaf iddyn nhw ei adfer. Ac fe gerddodd Aled Hughes fyny'r mynydd i gwrdd â'r ddau ar y copa.
Dywedodd Malcolm wrtho: "Maen nhw wedi chwalu ac rydan ni wedi ail-fuldio nhw. Moel Eilio oedd y cynta'. Nafo ni gyrraedd yma un bore ac roedd o wedi chwalu yn fwy na'r arfer.
"Oddan ni'n meddwl fysa rhywun yn ail-wneud hi. Dod yma wedyn mewn rhyw dri mis ac roedd hi'r un fath. Felly dyma ni yn decidio tro nesa yr odda ni am ddod fyny 'da ni yn mynd i ail-wneud hi ein hunain a dyna ddigwyddodd.
"Gymerodd o ryw awr i neud o. Mae o fel castell bach," meddai.
Mae ambell i fynydd yn fwy heriol ac yn cymryd ychydig mwy o amser iddyn nhw gasglu'r cerrig sydd angen.
Dydyn nhw ddim yn mynd a dim o'r cerrig gyda nhw, ond yn casglu'r hyn sydd ei angen arnyn nhw oddi ar y mynydd, fel yr eglurai Ed:
"Mae'r cerrig yma yn barod. Weithia neith Malcolm ddod yma ganol wsos i symud y cerrig mawr at y shelter. Pan 'da ni'n dod nôl wedyn ar ddydd Sadwrn mae'r cerrig wedi'i symud yn barod i ni fuldio.
"Tydan ni ddim yn saeri maen o gwbwl, just common sense rydan ni wedi iwsho," meddai.

Gwaith wedi'i orffen ar Carnedd Dafydd
Ers rhai blynyddoedd bellach mae'r ddau ffrind o Gaernarfon wedi mynd ati i adeiladu'r llochesau gyda nifer o fynyddoedd a cherddwyr wedi elwa o'u gwaith.
"Rydan ni wedi gwneud 14 fyny i rŵan. Rydan ni newydd ddarfod un ar mynydd Graig Goch.
"Does na'm byd gwaeth na chyrraedd y copa a dim cysgod yna. Gyno chdi ddim byd yn erbyn chdi a'r elements wedyn nagoes."
Roedd honno'n dasg heriol gyda Malcolm yn esbonio hyd y gwaith:
"Gymerodd hi rhyw saith i wyth mis i ni wneud honna.
"'Da ni ar y mynyddoedd pob penwsos trwy'r flwyddyn dim otch be' ydi'r tywydd.
"Nafo ni feddwl waeth i ni ail-wneud nhw i ni gael cysgod tra'n cael panad."
Cerddwyr diolchgar
Mae'r ymateb mae'r ddau wedi ei gael gan gerddwyr eraill yn bositif iawn, gydag ambell un yn stopio i roi help llaw.
"Mae 'na rhai pobl yn helpu ni weithia ac yn diolch i ni. Waeth i ni neud wbath ddim gan ein bod ni ar y mynyddoedd.
"Dwi wedi cerdded ymhob man, cerdded ar y Pyrenees a lot o ynysoedd fel Madeira, Malta, Cyprus a'r wlad yma.
"Dwi wedi cerdded pob mynydd yng Nghymru, mae 'na gannoedd ohonyn nhw.
"Dwi wedi bod wrth fy modd yn cerdded y mynyddoedd 'ma felly mae'n braf gallu rhoi rhywbeth yn ôl," meddai Malcolm.
Does gan y ddau ddim bwriad o stopio eto, ond mae'n waith sydd angen ei wneud yn barhaus a gobaith Malcolm yw y bydd pobl yn gweld y gwaith ac yn cario 'mlaen ar ôl i'w dyddiau nhw ddod i ben.
"Ma nhw eisiau gwaith drwy'r adeg felly gobeithio neith rhywun gario 'mlaen yn y dyfodol," meddai.
Ond hyd yma, diolch i waith y ddau ffrind o Gaernarfon, mae modd cysgodi o'r elfennau ar rai o gopaon Eryri.

Y gosgodfan ar gopa Elidir
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl