Gwneud y BAC fel pwnc Safon Uwch yn achosi 'straen diangen'

Fe wnaeth Ioan a Sam ddechrau'r ddeiseb i'r Senedd ddiwedd y llynedd ar ôl sylweddoli bod nifer o'u cyd-ddisgyblion yn rhannu eu teimladau
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion o orllewin Cymru wedi dechrau deiseb er mwyn i fyfyrwyr y dyfodol gael dewis os ydyn nhw am wneud y Fagloriaeth Gymraeg yn y chweched dosbarth.
Maen nhw'n honni bod system ariannu bresennol y llywodraeth ar gyfer Safon Uwch yn rhoi pwysau ar sefydliadau i wthio myfyrwyr i wneud y pwnc.
Yn ôl Llywodraeth Cymru dydy hi ddim yn orfodol i bob disgybl dros 16 oed i wneud y BAC - mae e'n benderfyniad i'r ysgol neu'r coleg.
Ychwanegodd y llywodraeth bod y Fagloriaeth Sgiliau Uwch yn cael ei hariannu ar yr un lefel â Safon Uwch, fel cymhwyster cyfwerth.

Mae pedwar pwnc Safon Uwch a'r BAC yn gallu bod yn lot o waith, medd Lowri Jones
Mae dewis y pynciau iawn ar gyfer lefel A yn hanfodol wrth geisio cynllunio ar gyfer camau cyntaf gyrfa.
Mae'n rhaid i nifer feddwl yn ofalus wrth geisio dewis y cyfuniad gorau o bynciau gan bod angen astudio am oriau ar gyfer pob un.
Mewn rhai sefydliadau ac ysgolion mae disgyblion wedi bod yn rhannu eu pryderon wrth iddyn nhw orfod cwblhau Bagloriaeth Cymru ynghyd â phynciau eraill.
Mae Lowri Jones yn ddisgybl Safon Uwch yng ngorllewin Cymru ac wedi gweld yr effeithiau negyddol mae pwysau gwaith yn gallu ei gael ar ddisgyblion.
"Dwi'n nabod rhywun sy'n cymryd pedwar pwnc lefel A yn barod ac wedyn mae'n rhaid iddo fe neud y BAC ar ben hwnna a dwi'n gwybod bod e o dan llawer o straen.
"Mae athro pob pwnc yn gofyn am waith a does dim llawer o amser 'da fe i neud y pedwar pwnc lefel A - mae e'n annheg."

I rai sefydliadau i fyfyrwyr dros 16 oed mae'r fagloriaeth yn orfodol ond mewn sefydliadau eraill mae'n bwnc dewisol.
Mae'r cymhwyster yn un sydd wedi ei ffurfio o fodiwlau gwahanol a'r radd yn seiliedig ar waith cwrs.
Sgiliau a pharatoi at fyd gwaith yw'r prif ffocws ond mae yna gyfle i fyfyrwyr wneud prosiect estynedig ar bwnc o'u dewis nhw.
I nifer o ddisgyblion mae'n bwnc sy'n eu helpu i gyrraedd y graddau angenrheidiol er mwyn mynd i brifysgol ond mae rhai myfyrwyr, fel Ioan, yn credu bod peidio cael y dewis yn gallu bod yn anfanteisiol.
Ar ôl i fyfyrwyr eraill rannu eu teimladau fe benderfynodd Ioan a'i ffrind Sam ddechrau deiseb - mae dros 900 wedi'i harwyddo erbyn hyn.
'Straen diangen'
Prif reswm Ioan dros ddechrau'r ymgyrch oedd galluogi myfyrwyr y dyfodol i gael dewis.
"Mae'r straen yn ddiangen. Sai'n gwybod pam bod pwysau ar golegau i wthio'r Fagloriaeth Gymraeg.
"Sgiliau trosglwyddadwy yw'r prif amcan ond os nad yw'r cymhwyster yn cael ei gydnabod yn eang tu allan i Gymru, mae'n rhoi ein myfyrwyr o dan anfantais. Mae problem fan hyn."
Mae nifer o brifysgolion yn derbyn y pwnc fel un cyfwerth â phynciau Safon Uwch eraill ond dyw pob prifysgol yn Lloegr ddim yn ystyried canlyniad y BAC.
Yn ôl dogfen gan Lywodraeth Cymru ar y pwnc prifysgolion sy'n gyfrifol am osod meini prawf derbyn ar gyfer eu cyrsiau.
Mae prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys prifysgolion Grŵp Russell, yn gyffredinol yn gadarnhaol iawn am y fagloriaeth.
- Cyhoeddwyd12 Medi
- Cyhoeddwyd12 Awst
Mae'r Aelod o'r Senedd, Tom Giffard, o'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod hwn wedi bod yn bwnc sy'n dod i'r amlwg yn gyson.
"Os yw myfyrwyr a disgyblion yn dweud bod hwn yn tynnu eu sylw o ran y pethe maen nhw mo'yn gwneud, mae'n iawn i ni godi cwestiynau ynglŷn â pham rydyn ni'n cario mlan i neud hyn," meddai.
Ychwanegodd Tom Giffard ei fod am i'r pwnc gael ei ailystyried fel ffordd o wella safonau addysg yng Nghymu.
"Rydyn ni'n gwbod o ffigyrau PISA bod ein sector addysg ddim yn gwneud digon i gymharu gyda'r Deyrnas Unedig a nid y Fagloriaeth Gymraeg yw'r unig rheswm am hyn - mae angen i ni edrych ar bopeth ni'n 'neud a gwrando ar ein disgyblion."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu a chymhwyso sgiliau allweddol mewn sefyllfaoedd ymarferol.
"Rydym yn glir nad yw'n orfodol i ddysgwyr gymryd y Fagloriaeth Sgiliau Uwch; gall chweched dosbarth ysgolion a cholegau ddatblygu eu cwricwlwm a'u polisïau derbyn eu hunain.
"Mae cyllid ôl-16 ar gyfer ysgolion a cholegau yn seiliedig ar yr holl gymwysterau yr ymgymerir â nhw yn ystod y flwyddyn academaidd, gan gydnabod y gost i ddarparwyr ar gyfer cyflwyno pob un o'r rhain.
"Mae'r Fagloriaeth Sgiliau Uwch yn cael ei hariannu ar yr un lefel â Safon Uwch, fel cymhwyster cyfwerth."