'Sioc bod Mam am roi ei chorff i wyddoniaeth, ond nawr dwi eisiau hefyd'
Dywedodd Lucy Owen ei bod yn agos iawn at ei mam felly pan "ddywedodd wrtha'i bod hi eisiau rhoi ei chorff i addysg roeddwn i eisiau gwybod mwy"
- Cyhoeddwyd
Yn gynharach eleni cafodd y newyddiadurwr a'r cyflwynydd Lucy Owen "sioc" ar ôl i'w mam 86 oed ddweud ei bod am roi ei chorff i wyddoniaeth feddygol ar ôl marw.
Er bod Patsy Cohen wedi brwydro canser y coluddyn am rai blynyddoedd, doedd Lucy byth eisiau meddwl am y profiad o'i cholli.
"Doeddwn i ddim yn barod i glywed mai dyma roedd hi am ei wneud" a doedd yr opsiwn o roi corff "ddim ar fy radar" meddai.
Ychwanegodd bod ei mam yn "sicr" ei bod am fod yn un o'r 1,300 o bobl yn y DU sy'n rhoi eu cyrff i fyd addysg bob blwyddyn.

Dywedodd Lucy bod hi a'i mab Gabe yn dyst bod Patsy yn dal i fyw bywyd i'r eithaf
Yn y cyfrif diwethaf yn 2019, fe ddefnyddiodd 34 o brifysgolion yn y DU gyrff go iawn gan roddwyr.
Mae myfyrwyr yn eu defnyddio i ddysgu am anatomeg y corff dynol, trwy brofiad ymarferol, ac mae llawfeddygon yn eu defnyddio i ymarfer eu sgiliau.
Pan glywodd Lucy bod ei mam eisoes wedi cysylltu â Phrifysgol Caerdydd a bod popeth wedi'i drefnu, dywedodd ei bod yn teimlo "edmygedd a dryswch".
Ond fe arweiniodd at gwestiynau.
"Sut fyddai ei chorff yn cael ei ddefnyddio? A fydden ni'n gallu cael angladd? A yw hyn yn rhywbeth y byddwn i byth yn ei ystyried fy hun?"
Dywedodd bod Patsy yn esbonio'r sefyllfa'n blwmp ac yn blaen wrthi, gan ddweud: "Dwi'n dychmygu llif fawr yn dod allan i dorri coes i ffwrdd, ond mewn gwirioendd 'sdim ots gen i."
Yn 2021 fe gafodd Patsy lawdriniaeth ar gyfer canser y coluddyn ac erbyn hyn mae ganddi stoma.
Esboniodd Lucy mai diolchgarwch ei mam tuag at y Gwasanaeth Iechyd yw'r rheswm ei bod am helpu i hyfforddi meddygon y dyfodol fel ei "rhodd olaf".

Freya gyda'i rhieni mewn gŵyl gerddoriaeth cyn dechrau ei hail flwyddyn fel myfyrwraig feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae Lucy wedi gwneud rhaglen ddogfen ar BBC iPlayer ac fe gafodd fynediad i Brifysgol Caerdydd er mwyn cael gweld beth yn union sy'n digwydd i'r cyrff.
"Does dim byd yr un peth â gweld, cyffwrdd a theimlo anatomeg go iawn - mae'n hanfodol," meddai Dr Hannah Shaw, arweinydd y tîm addysg anatomeg.
Dywedodd un o'r myfyrwyr bod "pethau go iawn yn edrych yn hollol wahanol i sut rydych chi'n meddwl y bydden nhw".
Mae Freya Gillson yn un o garfan o 300 o fyfyrwyr meddygol newydd a ddechreuodd ym Mhrifysgol Caerdydd y llynedd.
"Mae gweithio gyda'n rhoddwyr yn anhygoel," meddai.
"Nhw yw ein cleifion cyntaf ac rydych chi'n datblygu cysylltiad â nhw."

Mae Lucy Owen (dde) wedi cwrdd â rhai pobl bwysig iawn yn ei blynyddoedd yn gweithio fel newyddiadurwr y BBC yng Nghaerdydd, gan gynnwys y Brenin Charles
Dim pawb sy'n gallu rhoi eu cyrff i wyddoniaeth, ond pan fydd rhywun sydd wedi cynnig ei gorff i Brifysgol Caerdydd yn marw, maen nhwn cael eu cymryd i'r ganolfan anatomeg cyn gynted â phosibl.
Mae modd iddyn nhw gael eu cadw yno am hyd at dair blynedd.
Yna, mae eu teuluoedd yn penderfynu os hoffen nhw i'r cyrff gael eu hamlosgi neu eu claddu, a'r brifysgol sy'n talu am gostau'r angladd.
Mae tua 1,200 o fyfyrwyr ac 800 o weithwyr proffesiynol fel deintyddion, bydwragedd a llawfeddygon yn defnyddio rhoddwyr cyrff bob blwyddyn yng Nghaerdydd.
Mae cyfraddau ymholiadau gan bobl sydd eisiau rhoi eu cyrff wedi bod yn is yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi gweld gostyngiad, gyda thua 50% yn llai o bobl yn cofrestru ers 2020, er bod 154 o bobl wedi cofrestru yn 2024.

"Anodd amgyffred marwedd dy rodd" yw'r geiriau ar ddechrau cerdd am roddwyr gan un o'r myfyrwyr
Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, fe aeth Lucy Owen i ddigwyddiad coffa blynyddol y brifysgol.
Mae'r myfyrwyr yn cwrdd â theuluoedd y rhoddwyr y maen nhw wedi bod yn gweithio arnyn nhw.
Dydy'r myfyrwyr ddim yn dweud pa gyrff y maen nhw wedi bod gweithio â nhw, ond mae'n gyfle i rannu'r hyn y maen nhw wedi'i ddysgu'n fwy cyffredinol.
Fe roddodd mam Carol Endersby, Joy, ei chorff i'r ganolfan ar ôl ei marwolaeth yn 2024.
Dywedodd Carol: "Chi'n meddwl mai just rhodd untro yw e, chi'n rhoi eich corff a dyna fe, ond dyw hynny ddim yn wir.
"Y gwir amdani yw y bydd ei chorff yn helpu, nid yn unig meddygon y dyfodol, ond cleifion y dyfodol... doedden ni ddim yn sylweddoli maint na phwysigrwydd beth wnaeth hi."

Lluniau o Patsy Cohen o'r albwm teuluol gan gynnwys hi ar ddiwrnod ei phriodas
Dywedodd Lucy nad yw'n hi'n gallu dychmygu'r boen o ffarwelio â'i mam am y tro olaf, ond ei bod yn "falch ei bod hi'n gwybod ac yn deall ei dymuniadau".
"Byddai'n rhoi cysur gwirioneddol i mi wybod ei bod hi'n parhau i wneud gwahaniaeth - ac felly dwi'n hynod falch ohoni."
Ychwanegodd bod y daith hon hefyd wedi arwain ati hi'n penderfynu rhoi ei chorff ei hun i'r ganolfan pan fydd yn marw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.