Pentref Grav yn brwydro i gadw ysgol gynradd ar agor
- Cyhoeddwyd
Mae merch y diweddar Ray Gravell wedi ymuno yn y frwydr i gadw Ysgol Gynradd Mynydd-y-Garreg ger Cydweli ar agor.
Ym mis Rhagfyr fe benderfynodd Cyngor Sir Gaerfyrddin i ymgynghori ar ddyfodol yr ysgol am fod yna ormod o lefydd gwag ac am fod cyflwr yr adeiladau yno yn wael.
Y cynllun posib yw cau'r ysgol - ble mae yna 38 disgybl - a symud y disgyblion i Ysgol Gwenllian, gyda'r bwriad yn y pen draw o godi ysgol Gymraeg newydd yng Nghydweli.
Dywedodd Manon Gravell - sydd hefyd yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol - y byddai ei thad wedi ymladd y cynlluniau i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg.
Fe chwaraeodd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol rhan flaenllaw yn yr ymgyrch i gadw'r ysgol ar agor yn 2006 pan oedd yna fygythiad y byddai'n cau.
"Y tro diwethaf wnaethon nhw drio cau'r ysgol, roedd Dad yn erbyn beth oedden nhw yn treial gwneud a dwi'n teimlo bydde fe yn teimlo yr un peth [heddiw]," meddai Manon.
"Cafodd e gymaint o gyfleoedd yn yr ysgol 'na wnaeth ddechrau ei yrfa fe. Mae cael gwreiddiau mor ddwfn yn eich pentref chi, bydde colli hwnna i Dad yn rhywbeth anodd iawn iddo dderbyn."
Mae hi'n dweud ei bod hi wedi elwa yn bersonol o'r addysg yn yr ysgol hefyd.
"'Sa i'n teimlo fy mod i wedi cael llai o fraint na unrhyw blentyn mewn unrhyw ysgol," meddai.
"Dwi wedi graddio, wedi cael gradd meistr, 'sa i wedi colli rhan o fy addysg [ar ôl bod] i ysgol lai. Roedd fy athrawes i yn ffantastig."
Un arall sydd yn gwrthwynebu cau'r ysgol yw Gareth Davies. Mae ei ferched Wren a Lottie yn ddisgyblion yno.
"Mae'r tymheredd wedi codi. Mae pobl yn cymryd hwn yn bersonol iawn," meddai. "Mae'r gymuned yn gryf ac mae naws i ymladd y case."
Yn ôl Mr Davies, mae'n annheg i gynnal yr ymgynghoriad nawr "pan mae e jest yn galed i fyw, gyda phopeth sydd yn mynd 'mlaen. Pam ddim gohirio'r ymgynghoriad tan yr haf?"
Yn ôl cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol, Sue Woodward: "Mae pobl yn teimlo yn gryf iawn dros gadw'r ysgol ar agor.
"Mae e wedi bod yma am 130 o flynyddoedd. Mae ysgolion bach yn gallu cyfrannu llawer o safbwynt addysgol. Mae'r niferoedd wedi aros yn gyson, ac mae 38 o ddisgyblion gyda ni ar hyn o bryd."
Yn ôl Ms Woodward, fe fyddai'n fanteisiol i'r adran feithrin fedru derbyn disgyblion yn dair oed.
Mae hi'n dweud fod "pobl y pentref yn grac" fod y cyngor yn bwrw 'mlaen gyda'r ymgynghoriad yng nghanol y pandemig.
"Dyw hi ddim yn bosib i rieni ymgyrchu yn iawn," meddai.
Mae'r cynllun ymgynghori fod i ddod i ben ar 21 Chwefror.
Ond mae'r Aelod Seneddol lleol, Nia Griffith, wedi galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i ymestyn y cyfnod ymgynghori fel bod y gymuned leol yn cael mwy o amser i drafod y cynllun.
Fe allai'r ysgol gau ar ddiwedd mis Awst os ydy'r cynlluniau yn cael eu derbyn.
Doedd neb ar gael i wneud sylw ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin am fod y cyfnod ymgynghori wedi dechrau.
Ond fe ddywedodd yr awdurdod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sêl bendith iddyn nhw barhau gyda'r broses ymgynghori yn ystod y pandemig.