Llwyddo i achub toiledau wrth ailadeiladu hen dafarn
- Cyhoeddwyd
Mae tîm o bobl sy'n ailadeiladu tafarn enwog yn amgueddfa Sain Ffagan wedi llwyddo i achub rhan o doiledau nodweddiadol y safle.
Fe wnaeth tafarn y Vulcan yng Nghaerdydd gau yn 2012 ar ôl bod ar agor ers bron i 160 o flynyddoedd.
Roedd y safle yn wynebu dyfodol ansicr cyn i Sain Ffagan benderfynu ei achub a'i dynnu o'r safle er mwyn ei ailadeiladu yn yr amgueddfa.
Mae gwaith manwl y tîm yn golygu eu bod hyd yn oed wedi llwyddo i achub toiledau'r dynion - yr urinals - o'r hen dafarn.
Y gobaith yw y bydd y safle wedi'i ailadeiladu yn llawn yn Sain Ffagan ymhen dwy flynedd.
Cafodd y Vulcan ei godi yn 1853, gan wasanaethu'r gymuned Wyddelig yn yr ardal yn bennaf, cyn cau naw mlynedd yn ôl.
Fe wnaeth Amgueddfa Cymru dynnu'r adeilad yn ddarnau fesul bricsen cyn dechrau yn 2020 ar brosiect tair blynedd i'w ailadeiladu yn Sain Ffagan.
Dywedodd Jennifer Protheroe-Jones o'r amgueddfa y bydd y dafarn yn cael ei harddangos fel yr oedd yn 1915, ond mae toiledau'r dynion - fu'n rhan o'r safle ers 1914 - wedi cael dipyn o sylw gan y tîm sy'n ei hadfer.
Yn ôl swyddogion roedd y toiledau wedi dioddef tipyn o ddifrod, ac roedd angen arbenigwyr ar adfer ceramig i'w hachub.
"Ar ôl gael eu glanhau yn drylwyr, roedd y toiledau wedi'u hadfer nid yn unig i safon amgueddfa, ond i safon ble mae modd eu defnyddio ar gyfer eu pwrpas gwreiddiol unwaith eto," meddai llefarydd.
"Mae hi'n siom, unwaith y byddwn ni'n ailagor y dafarn, mai dim ond hanner ein cynulleidfa fydd yn eu gweld nhw!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012