Yr Ail Adran: Casnewydd 1 - 0 Grimsby
- Cyhoeddwyd

Cafodd canolwr Casnewydd, Scot Bennett, ei hel o'r cae yn ystod hanner cyntaf y gêm
Ar ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb fe gafodd benthyciad newydd Casnewydd, Nicky Maynard, effaith ar unwaith wrth sicrhau'r gôl fuddugol yn erbyn Grimsby.
Roedd hi'n ymddangos yn brynhawn hir i'r Alltudion pan dderbyniodd y chwaraewr canol cae Scot Bennett gerdyn coch hanner ffordd trwy'r hanner cyntaf am blymio yn erbyn Stefan Payne, ymosodwr Grimsby.
Ond rhoddodd Maynard Gasnewydd ar y blaen o bellter agos ar ôl i ergyd ddifflach Matty Dolan syrthio'n garedig o'i flaen.
Ac fe safodd gôl-geidwad Casnewydd, Nick Townsend, yn gadarn hyd y diwedd wrth i Grimsby ymdrechu i unioni'r sgôr dro ar ôl tro.
Wedi'r gêm dywedodd rheolwr yr Alltudion, Michael Flynn, mai hwn oedd "buddugoliaeth orau'r tymor".