S4C yn ymddiheuro am sylw 'dofi' gwallt cyrliog

  • Cyhoeddwyd
Gwefan S4C

Mae S4C wedi ymddiheuro yn dilyn cwyn am hysbyseb sy'n gofyn i rieni "ddofi" gwallt cyrliog eu plant cyn tynnu lluniau ohonynt ar gyfer un o raglenni'r sianel.

Roedd cyfarwyddiadau ar wefan rhaglen Cyw yn dweud: "Os oes gwallt cyrliog neu grychlyd gan y plentyn, ceisiwch ei ddofi, neu o leiaf sicrhau ei fod i gyd i mewn yn y llun."

Yn ôl pum menyw sydd wedi arwyddo llythyr i'r sianel - Melanie Owen, Mali Ann Rees, Jalisa Andrews, Mirain Iwerydd a Bethan Wyn - mae'r iaith a ddefnyddiwyd yn "amhriodol" ac yn awgrymu "bod yna amgylchedd gelyniaethus hiliol yn S4C".

Mae'r frawddeg bellach wedi cael ei dileu o'r wefan, ac mae'r sianel wedi ymddiheuro am unrhyw boen a achoswyd.

'Niweidiol a pheryglus'

Yn ôl llythyr y grŵp mae'r syniad bod gwallt cyrliog neu "grychlyd" yn rhywbeth sydd angen cael ei "ddofi" yn "niweidiol ac yn cael effaith beryglus a hirbarhaol - effaith rydyn ni i gyd wedi dioddef wrth gael ein magu yng Nghymru".

Ac maent yn galw ar y sianel i ystyried yr agwedd hiliol yn y geiriau hefyd.

"Gwnaeth pedair ohonom ni gael ein magu yng Nghymru fel plant lleiafrif ethnig, yn teimlo bod yna ddiffyg cynrychiolaeth ohonom ni yn y cyfryngau Cymraeg.

"Roedd hyn yn gallu gwneud i ni deimlo ar wahân i Gymry arall, ac fel ein bod yn cael ein hanwybyddu.

"Mae gennyn ni wallt cyrliog a mawr achos o ein hethnigrwydd. Dydy gwallt fel hyn ddim yn gallu cael ei "ddofi"."

Ffynhonnell y llun, Melanie Owen
Disgrifiad o’r llun,

Melanie Owen, un o awduron y llythyr

Mae'r llythyr yn dweud bod y frawddeg yn eu hatgoffa o deimlad "bod na ddim lle i blant fel ni yn y cyfryngau Cymraeg, a bod ein golwg yn annerbyniol i gynulleidfa Cymraeg".

"Wrth i ni ysgrifennu atoch heddiw fel oedolion bellach, rydyn ni'n drist bod yr agweddau yma heb newid - yn ôl y dyfyniad yma."

'Iaith y 1970au'

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru dywedodd Melanie Owen ei bod bron â chrïo pan ddarllenodd y geiriau.

Roedd yn cael ei hatgoffa o sut roedd hi'n teimlo "fel merch ifanc yng Nghymru, yn casáu fy ngwallt - roedd gas gen i gwallt fi", meddai.

"Mae'r iaith rydan ni'n clywed yn y dyfyniad yma yr un math o iaith yr oedd fy mam yn ei glywed yn y 1970au."

Mae S4C wedi penodi swyddog amrywiaeth a chynhwysiant ers mis Tachwedd, ond er ei bod yn croesawu hynny ac yn derbyn ymddiheuriad y sianel, roedd Ms Owen yn credu bod angen iddynt wneud mwy.

"Mae hwn fel esiampl yn dangos dydy hon ddim yn swydd i un person. Mae'n swydd enfawr... mae angen adran i wneud hyn."

Ychwanegodd: "Roeddwn i'n cael fy magu yng Nghymru heb deimlo fy mod i'n cael fy nghynrychioli o gwbl ac mae'r iaith a welon ni yn y dyfyniad yma yn dangos pam roeddwn i'n teimlo mor isolated.

"Dwi wedi dod i hoffi fe [S4C] ond doeddwn i ddim yn hoffi gwylio fe fel plentyn achos pethau fel hyn a dwi just yn meddwl bod hwn ddim yn rhywbeth sy'n mynd i gael ei ddatrys o fewn un blwyddyn, mae angen ei ddatrys dros y tymor hir ac yn anffodus mae'n lot rhy fawr i un person."

'Cwbl annerbyniol'

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Rydym yn derbyn fod y geiriad dan sylw yn gwbl annerbyniol, ac yn ymddiheuro am unrhyw boen a niwed sydd wedi ei achosi yn sgil hyn.

"Gallwn gadarnhau y bydd y geiriad yn cael ei newid heddiw ac y byddwn yn cysylltu gyda'r llythyrwyr i ymddiheuro ac egluro yn llawn.

"Ers rhai misoedd bellach mae Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C wedi ei phenodi sy'n gweithio ar gynllun o waith hir-dymor fydd yn edrych ar ddiweddaru unrhyw ganllawiau, ffurflenni, a pholisïau er mwyn sicrhau eu bod mor gynhwysol â phosib - bydd hyn yn cynnwys prosesau adnoddau dynol mewnol S4C ac hefyd unrhyw ganllawiau neu gyfarwyddiadau sy'n cyd-fynd â rhaglenni."

Pynciau cysylltiedig