Gadael swydd wedi sylwadau 'annerbyniol' am y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall bod un o reolwyr sefydliad iechyd cenedlaethol fu ynghanol ffrae dros newid iaith dysgu blynyddoedd cynnar rhai o ysgolion cynradd Sir Gâr wedi dychwelyd i'w hen swydd.
Roedd James Moore ar secondiad gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) pan gymharodd triniaeth pobl ddi-Gymraeg ag apartheid yn Ne Affrica.
Dywedodd ei bod hi'n amser i bobl ddi-Gymraeg ddal eu tir yn erbyn "gormeswyr".
Fe wnaeth Mr Moore ei sylwadau wrth ymateb ar Facebook i stori am gynigion Cyngor Sir Gâr i newid y ddarpariaeth i rai disgyblion rhwng pedair a saith oed a'u dysgu trwy Gymraeg.
Roedd yn ymateb yn benodol i gynigion oedd yn ymwneud ag Ysgol Model yng Nghaerfyrddin.
Cafodd y sylwadau eu disgrifio fel rhai cwbl "annerbyniol" gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.
Dywedodd ddydd Gwener, 26 Chwefror y byddai yn gofyn am godi'r mater ar frys gyda chadeirydd AaGIC.
Dywedodd AaGIC eu bod nhw bellach wedi cwblhau trafodaethau mewnol a bod secondiad Mr Moore bellach wedi dod i ben.
Fe fydd yn dychwelyd i'w swydd arferol gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Dywedodd datganiad AaGIC ddydd Sul: "Ry'n ni yn cymryd y sylwadau am yr iaith Gymraeg o ddifri'.
"Ry'n ni wedi ymrwymo yn llawn i sicrhau ein bod yn cefnogi a thyfu'r iaith Gymraeg yn ein gweithleoedd o fewn y Gwasanaeth Iechyd.
"Ry'n ni'n deall pa mor bwysig yw hyn i'n staff, i'n myfyrwyr a'n cleifion.
"Dy'n ni ddim yn cefnogi nac yn cymeradwyo y sylwadau gafodd eu gwneud gan yr unigolyn dan sylw ond dyw hi ddim yn bosibl i ni wneud sylw ynglŷn â thrafodaethau mewnol gydag aelod unigol o staff. Ry'n ni yn trafod materion felly o ddifri'."
'Ddim yn cymeradwyo sylwadau'
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Ry'n ni yn ymwybodol o sylwadau annoeth ac ymfflamychol gafodd eu gwneud gan aelod o'n staff a fu tan yn ddiweddar ar secondiad am 18 mis gyda AaGIC.
"Dy'n ni ddim yn cymeradwyo nac yn cefnogi y sylwadau yma sy'n mynd yn groes i'n hymroddiad i'r iaith Gymraeg fel gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol Cymru.
"Mae'r camau priodol wedi eu cymryd sydd yn gydnaws gyda pholisi disgyblu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2021