Cau meysydd parcio er mwyn annog pobl i aros gartref
- Cyhoeddwyd

Mae maes parcio Bae Langland wedi cau i geisio annog y cyhoedd i lynu at reolau Covid 19
Mae meysydd parcio cyhoeddus wedi eu cau yn dilyn "nifer o adroddiadau" ynglŷn â phrysurdeb ar draethau ac mewn lleoliadau atyniadol eraill.
Mae'r tywydd braf wedi annog nifer o deuluoedd i deithio i'r arfordir ac i barciau gwledig.
Dywedodd Heddlu'r De bod swyddogion yn stopio ceir i weld a yw pob siwrne yn hanfodol o dan reolau'r cyfnod clo.
Mae Cyngor Abertawe wedi cau meysydd parcio traethau poblogaidd yn ardal y Mwmbwls gan gynnwys Bae Caswellt a Bae Langland.
O dan y rheolau presennol, mae gan bobl hawl i wneud ymarfer corff y tu allan os yw'r weithgaredd yn dechrau ac yn gorffen yn y cartref.
Fe allai pobl sy'n torri'r rheolau wynebu dirwy o £60.

Pobl yn mwynhau'r haul ym Mae Caerdydd ddydd Sul
Mae'r heddlu wedi bod ar ddyletswydd hefyd yn ardal Pontarddulais yn dilyn adroddiadau bod yna bobl yno yn torri'r rheolau.
Yn y gogledd, apeliodd Cyngor Conwy ar bobl i fwynhau eu hymarfer corff yn lleol.
Dywedodd yr heddlu yn Wrecsam eu bod yn gwneud yn sicr bod ymwelwyr â'r parciau yno yn cadw at y rheolau yn dilyn "pryderon am grwpiau yn dod ynghyd" ddydd Sadwrn.