Galw am wrandawiad agored i farwolaeth Christopher Kapessa
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen 13 oed a fu farw ar ôl cael ei wthio i afon eisiau gwrandawiad agored ar ôl i'r Uchel Lys wrthod cais am adolygiad i'w farwolaeth.
Bu farw Christopher Kapessa, o Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, ym mis Gorffennaf 2019.
Canfu Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) fod digon o dystiolaeth i erlyn y bachgen a wthiodd Christopher i mewn i Afon Cynon.
Ond ni aeth y CPS â'r achos ymhellach.
Cafodd cais am adolygiad barnwrol llawn ei wrthod yr wythnos diwethaf.
Mewn llythyr at y teulu fis Chwefror diwethaf, dywedodd y CPS eu bod wedi ystyried oedran y plentyn dan amheuaeth, ei ddiffyg cefndir troseddol a'i gymeriad da, a dywedodd nad oedd budd i'r cyhoedd drwy erlyn.
Cafodd y penderfyniad ei gadarnhau gan y CPS ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl adolygiad.
Roedd teulu Christopher wedi cyhuddo'r CPS o ystyried "bywyd plentyn du yn rhatach na'r budd cyhoeddus i'r plentyn dan amheuaeth".
Fe wnaethon nhw hefyd gyhuddo Heddlu De Cymru o hiliaeth sefydliadol.
Ym mis Hydref 2020, cyflwynodd mam Christopher, Alina Joseph, gais i'r Uchel Lys i adolygu penderfyniad y CPS i beidio â chyhuddo'r unigolyn dan amheuaeth.
Gwrthodwyd cais Ms Joseph am wrandawiad adolygiad barnwrol llawn yr wythnos diwethaf gan farnwr Uchel Lys, mae'r CPS wedi cadarnhau.
'Cyfiawnder nid dial'
Galwodd cyfreithwyr, sy'n gweithio ar ran Ms Joseph, am i'r gwrandawiad caniatâd - i benderfynu a ddylid cynnal adolygiad barnwrol llawn - gael ei gynnal ar lafar, fel y bod modd esbonio'r "ffeithiau a'r sefyllfa gyfreithiol yn llawnach mewn llys agored".
Dywedodd Ms Joseph: "Ni fyddwn yn gorffwys nes y byddwn yn cael cyfiawnder i'm mab.
"Rwy'n ceisio cyfiawnder nid dial. Dwi ddim eisiau i blentyn a theulu du arall gael eu methu gan y system."
Ym mis Gorffennaf y llynedd, dywedodd Jenny Hopkins o'r CPS: "Er fod tystiolaeth i gefnogi erlyniad ar sail dynladdiad nid oedd o fudd cyhoeddus i erlyn.
"Fe ddigwyddodd marwolaeth drasig Christopher wedi i grŵp o blant fynd i gael hwyl ger yr afon.
"Dangosodd y dystiolaeth fod Christopher wedi ei wthio i'r afon wrth chwarae'n ffôl, gyda dim awgrym fod y plentyn arall gyda bwriad i'w niweidio, er mai dyna oedd y canlyniad ofnadwy."
Ychwanegodd: "Rydym yn sylweddoli y bydd ein penderfyniad yn achosi loes i'r teulu fydd efallai yn teimlo fod bywyd y plentyn oedd yn cael ei amau yn cael blaenoriaeth dros fywyd Christopher.
"Rydym wedi defnyddio ein prawf cyfreithiol i'r dystiolaeth ac rwyf yn gobeithio y gallan nhw ddeall pam ein bod wedi dod i'r casgliad yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020