Dim erlyniad yn achos marwolaeth Christopher Kapessa
- Cyhoeddwyd
Ni fydd bachgen 14 oed oedd wedi gwthio bachgen arall i afon cyn iddo farw yn cael ei erlyn, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Cafodd corff Christopher Kapessa, 13, ei ddarganfod yn Afon Cynon ger Aberpennar, Rhondda Cynon Taf ar 1 Gorffennaf 2019.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ei fod wedi cael ei wthio i'r afon mewn gweithred ffôl.
Roedd teulu Christopher wedi cyhuddo Gwasanaeth Erlyn y Goron o ystyried "bywyd plentyn du yn rhatach na'r budd cyhoeddus i'r plentyn dan amheuaeth".
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud nad oes "budd cyhoeddus" mewn erlyn ar sail dyn-laddiad. Cafodd penderfyniad blaenorol i beidio erlyn ei adolygu, gan bod digon o dystiolaeth.
Dywedodd Jenny Hopkins, sydd yn gyfrifol am oruchwylio uned apeliadau ac adolygiadau'r gwasanaeth Erlyn y Goron: "Er fod tystiolaeth i gefnogi erlyniad ar sail dyn-laddiad nid oedd o fudd cyhoeddus i erlyn.
"Fe ddigwyddodd marwolaeth drasig Christopher wedi i grŵp o blant fynd i gael hwyl ger yr afon.
"Dangosodd y dystiolaeth fod Christopher wedi ei wthio i'r afon wrth chwarae'n ffôl, gyda dim awgrym fod y plentyn arall gyda bwriad i'w niweidio, er mai dyna oedd y canlyniad ofnadwy."
'Oedran a chefndir'
Ychwanegodd eu bod wedi ystyried oed ifanc y plentyn dan amheuaeth, ei ddiffyg cefndir troseddol a'i gymeriad da.
Dywedodd: "Rydym yn sylweddoli y bydd ein penderfyniad yn achosi loes i'r teulu fydd efallai yn teimlo fod bywyd y plentyn oedd yn cael ei amau yn cael blaenoriaeth dros fywyd Christopher.
"Rydym wedi defnyddio ein prawf cyfreithiol i'r dystiolaeth ac rwyf yn gobeithio y gallan nhw ddeall pam ein bod wedi dod i'r casgliad yma."
Fe ddywedodd y gwasanaeth hefyd nad oedd yr un o ddatganiadau'r bobl ifanc fu'n dystion i'r digwyddiad yn awgrymu bod hiliaeth yn rhan o'r hyn ddigwyddodd o gwbl.
Dywedodd mam Christopher, Alina Joseph: "Mae penderfyniad Gwasanaeth Erlyn i Goron i beidio erlyn y rhai oedd yn gyfrifol am farwolaeth fy mab yn groes i egwyddorion cydraddoldeb a chyfiawnder mae llawer o ymgyrchwyr wedi brwydro i'w dileu am flynyddoedd lawer.
"Rwyf yn parhau i obeithio am gyfiawnder ond mae'n ymddangos fod rhaid i mi ymladd amdano ar bob cam a thro."
Siom teulu Christopher
Disgrifiodd Ymgyrch Cyfiawnder i Deulu Christopher Kapessa benderfyniad yr adolygiad fel un "groes i'r graen" a "nid yn unig yn anghyfiawnder difrifol o gofio am ffeithiau'r achos ond yn cynrychioli carreg filltir damniol i asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig".
Ychwanegodd: "Fe wnaeth ystyried bywyd plentyn du yn rhatach na'r budd cyhoeddus i'r bachgen dan amheuaeth."
Dywedodd fod Ms Joseph yn ystyried dechrau adolygiad barnwrol i herio penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron a galw am ymyrraeth bersonol y Gweinidog Cyfiawnder drwy ei haelod seneddol.
'Anfon neges'
Dywedodd cyfreithiwr Ms Joseph, Hilary Brown fod y penderfyniad yn "anfon neges nad oedd ei fywyd o bwys".
Ychwanegodd: "Ni wnaeth Christopher golli ei fywyd o ganlyniad i ddamwain neu o achos ei weithredoedd ei hun. Cafodd ei wthio i'w farwolaeth gan rhywun ac fe ddylai'r system gyfiawnder droseddol yn y DU gymryd camau i sicrhau fod cyfiawnder yn cael ei roi i Christopher a'i deulu.
"Wedi astudio adolygiad Gwasanaeth Erlyn y Goron rydym nawr yn y broses o ystyried ein holl ddewisiadau cyfreithiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019