Muriau Jericho
- Cyhoeddwyd
Mae'n ystrydebol braidd i ddweud bod pob etholiad yn frwydr rhwng gobaith ac ofn ond un o'r grymoedd cryfaf mewn gwleidyddiaeth yw'r ymdeimlad bod hi'n amser cael newid, unrhyw newid bron a bod.
Dyna pam mae'n anarferol iawn i unrhyw un blaid arwain corff etholedig am gyhyd ag y mae Llafur wedi arwain Senedd Cymru. Os am brawf o hynny does ond eisiau edrych ar ein siambrau cyngor ni.
Mae 'na ddau ar hugain o gynghorau yng Nghymru ac yn y cyfnod ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999 mae pob un ohonyn nhw, ac eithrio dau, wedi newid dwylo o leiaf unwaith. Castell-nedd Port Talbot a Gwynedd yw'r eithriadau.
Hirhoedlog ond bregus felly yw'r disgrifiad gorau o oruchafiaeth y blaid Lafur yn Senedd Cymru a'i gafael ar y wlad. Byddai hi ddim yn cymryd llawer i achosi i'r dominos ddechrau disgyn.
Dyma i chi un enghraifft. Daeth Llafur yn agos iawn at golli Blaenau Gwent yn etholiad 2016. Newidiadau yn y gwasanaeth gwastraff ac ail-gylchu lleol ynghyd a chau sinema hanesyddol Brynmawr oedd yn gyfrol am hynny yn ôl y rheiny ddylai wybod.
Amgylchiadau arbennig lleol oedd y rheiny ond mae modd cael amgylchiadau arbennig cenedlaethol hefyd.
Cymerwch etholiadau lleol 2008 a gynhaliwyd jyst wrth i'r argyfwng ariannol ddechrau ysgwyd sylfaeni'r Economi bydol. Nid cynghorwyr Llafur oedd yn gyfrifol am yr argyfwng wrth reswm ond fe wnaethon nhw dalu'r pris.
Collodd Llafur reolaeth ar chwe chyngor yn yr etholiad hwnnw gyda'i chanran o'r bleidlais yn gostwng i 26.6%.
Mae hi wedi bod yn is na hynny yn fwy diweddar. Dim ond 15.3% o'r pleidleiswyr wnaeth gefnogi Llafur yn etholiad Ewrop yn 2019. Wrth reswm, roedd Brexit yn amgylchiad arbennig ar y pryd ond mae pandemig yn amgylchiad arbennig hefyd a allasai gael effeithiau annisgwyl ar y canran sy'n pleidleisio, a phroffil oedran a dosbarth y pleidleiswyr.
Nawr, rwy'n rhan o gonsensws gweddol eang sydd o'r farn mai Llafur fydd y blaid fwyaf ar ôl i'r pleidleisiau gael eu cyfri ar Fai'r 7fed ond rwy'n amheus o'i gallu i sicrhau mwyafrif. Dyna mae'r arolygon barn yn awgrymu hefyd.
Eto i gyd, mae gen i chwilen yn fy mhen yn fy atgoffa i ddisgwyl yn annisgwyl ar ganol cyfnod o ansicrwydd a chynnwrf. Seren tan gwmwl yw etholiad 2021 a does dim arwydd bod y cymylau hynny ar fin agor.