Tair o'r bron
- Cyhoeddwyd
Roedd gwleidyddion benywaidd yn greaduriaid prin iawn yn ail hanner y ganrif ddiwethaf ond mae'r rheiny wnaeth lwyddo i wneud marc, er cymaint y rhwystrau yn eu herbyn, yn aros yn y cof.
Y tair sy'n sefyll mas i fi yw Margaret Thatcher, wrth reswm, ond hefyd Barbara Castle a Shirley Williams. Cefais y cyfle i gwrdd â'r tair ohonyn nhw ac roeddynt yn gymeriadau gwahanol iawn i'w gilydd.
Er bod Barbara Castle yn ymladdwr glew dros hawliau merched roedd hi'n gwybod sut oedd bod yn "un o'r bois" mewn byd o ddynion. Rwy'n cofio mynd a hi am ginio yng Nghaerdydd rhyw dro ac roedd ei gallu i raffu straeon sgandalus a chracio jôcs amheus yn ddigon i ryfeddu dyn.
Hawdd oedd gweld sut y llwyddodd hi i gael ei derbyn mewn byd mor wrywaidd â San Steffan yn y chwedegau a'r saithdegau.
Ond y tu ôl i'r clecs a'r jôcs roedd 'na wleidydd o sylwedd gyda llawer yn darogan mai hi fyddai prif weinidog benywaidd cyntaf y DU.
Doedd bron neb yn disgwyl taw Margaret Thatcher fyddai'n cyflawni'r gamp honno, o leiaf cyn iddi drechu Ted Heath yn annisgwyl i ddod yn arweinydd ar yr wrthblaid.
Nid "un o'r bois" oedd Thatcher. Roedd hi'n fwy o ddyn na'r un ohonynt, o leiaf yn nhyb ei chefnogwyr mwyaf pybyr. Doedd dim arwyddion o wendid i fod ac, yn wir, doedd 'na ddim tan y deigryn yna ar y diwrnod olaf un.
Mae'n anodd dychmygu cymeriad mwy gwahanol i Mrs Thatcher na Shirley Williams oedd yn nodweddiadol am ei hanwyldeb. Hi oedd y mwyaf "normal" o'r tair o safbwynt ei delwedd gan ddod drosodd fel hoff fodryb pawb. Ond roedd hithau, fel Barbara Castle, ag un o feddyliau gwleidyddol mwyaf chwim ei chyfnod.
Rhaid i mi gyfaddef yn fan hyn bod Shirley Williams yn ffrind coleg agos i'n nhad. Roedd gan yntau feddwl anferth ohoni ac mae hynny o bosib wedi dylanwadu arnaf i ond, yn fy nhyb i, hi oedd y fwyaf disglair o'r tair.
Yr hyn sy'n ddiddorol wrth edrych yn ôl yw bod y tair menyw wedi gorfod creu delweddau ohonyn nhw eu hun mewn ffordd nad oedd yn rhaid i ddynion y cyfnod wneud.
Hynny yw, cystadlu ar delerau'r dynion yr oeddynt yn gorfod gwneud er mwyn llwyddo mewn byd lle'r oedd bron popeth yn milwriaethu yn eu herbyn.
Rwy'n gobeithio nad yw'r un peth yn wir i'r un graddau heddiw er fy mod yn ofni weithiau ein bod yn twyllo'n hun ynghylch faint sydd wedi ei gyflawni o safbwynt cydraddoldeb a faint sydd ar ôl i'w wneud.