Tân ar safle Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae diffoddwyr wedi cael eu gweld yn cael eu codi i do yr adeilad

Mae diffoddwyr yn delio gyda thân yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd y gwasanaeth ei fod wedi cael ei alw i'r adeilad yn ardal Cathays toc wedi hanner dydd.

Ychwanegodd bod sawl criw wedi mynychu, ac mae diffoddwyr wedi eu gweld yn cael eu codi i do yr adeilad.

Ond mae'r amgueddfa'n dweud nad oes unrhyw ddifrod wedi'i achosi i gasgliadau.

Ffynhonnell y llun, Robert Gale/@awv

Dywedodd yr amgueddfa ar ei chyfrif Twitter: "Gallwn ni gadarnhau bod tân bach wedi bod yn y dôm yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd amser cinio dydd Iau.

"Ni chafodd unrhyw staff eu brifo ac ni ddifrodwyd unrhyw gasgliadau

"Mae'r tân wedi cael ei ddiffodd yn llwyddiannus ac mae'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i achos y tân."

Pynciau cysylltiedig