Yr Ail Adran: Mansfield 1-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Joss Labadie o Gasnewydd (gwaelod, ar y dde) ac Ollie Clarke o Mansfield Town yn brwydro am y bel
Enillodd Tyrese Sinclair gêm gyfartal haeddiannol i Mansfield Town yn erbyn Casnewydd, sy'n ceisio am ddyrchafiad.
Roedd yr ornest rhwng y ddwy ochr yn gyfartal am ran helaeth o'r gêm, gyda gôl-geidwad Mansfield, Aidan Stone a'i gyffelyb yn nhîm Casnewydd, Nick Townsend, yn cael eu cadw'n brysur.
Rhoddodd capten Casnewydd Josh Labadie yr ymwelwyr ar y blaen yn yr ail hanner gydag ergyd o'i droed chwith.
Ond fe barhaodd Mansfield i bwyso a gyda chwe munud yn weddill fe ddaeth Sinclair o hyd i'r rhwyd.
Cyn y gic gyntaf, safodd y ddwy ochr am funud o dawelwch yn dilyn marwolaeth y Tywysog Philip, Dug Caeredin.