Chris Tywydd a'i sgyrsiau gyda chymeriadau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chris JonesFfynhonnell y llun, Chris Jones

Mae Chris Jones, neu Chris Tywydd fel mae nifer yn ei adnabod, yn wyneb cyfarwydd sydd wedi cyflwyno'r tywydd ar S4C ers dros 20 mlynedd.

Yn 2020, mae Chris wedi achub ar y cyfle i arallgyfeirio a chychwyn dau bodlediad newydd. Dyma ei stori:

2020. Dyna beth oedd blwyddyn! Blwyddyn, allan o orfodaeth yn fwy na dim, i newid cyfeiriad, i ail-feddwl, ac i arallgyfeirio.

A dyna'n union wnes i lwyddo i wneud, ar ôl penderfynu dechrau recordio a chynhyrchu dau bodlediad. Un yn y Saesneg, The Influencers, sef cyfweliadau â phobl o feysydd gwahanol ac amrywiol, sy'n newid, yn llywio ac yn dylanwadu mewn rhyw fodd, ac yn cynnwys actor ffilm enwog, pennaeth elusen, gweinidog gwleidyddol a drag cwîn.

Ac un yn y Gymraeg, Cymeriadau Cymru, sef sgyrsiau naturiol, anffurfiol, doniol, dewr a diddorol gyda nifer o enwau mwyaf adnabyddus Cymru neu sydd â chysylltiad gyda Chymru.

Sgiliau newydd

Dwi wrthi yn cyflwyno ac yn cynhyrchu a chyfarwyddo ers dros ddeng mlynedd ar hugain erbyn hyn ac wedi defnyddio offer teledu fel camerâu a meicroffons ac ati, ond sut oedd mynd ati i ddechrau recordio sain yn unig? A be' am olygu'r cyfweliad? Beth am gynnwys cerddoriaeth ac effeithiau sain?

Nes i gyflwyno sioe radio yn fyw mewn stiwdio ar Sain Abertawe am bron i bum mlynedd felly roedd y prif elfennau yn ddigon cyfarwydd. Ond H4nPro? Rodë reporter? Audacity? Compression? Mp3s? Dim syniad!

Felly nôl yn Chwefror 2020, cyn i fy mywyd proffesiynol i, a'r byd yn gyffredinol, newid, dyma fuddsoddi mewn offer recordio a lawrlwytho'r pecynnau golygu, a diolch i Marc Griffiths, Geraint Francis a sawl un arall am eu cymorth a'u cyngor.

Yn lwcus iawn, roedd hi dal yn bosib mynd i leoliadau bryd hynny, i recordio wyneb yn wyneb.

Ffynhonnell y llun, Chris Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sgwrsio gyda Niki Pilkington

Rachel Williams oedd y gwrthrych cyntaf, ar gyfer y podlediad Saesneg i ddechrau ar 1af Fawrth, a hithau'n ddylanwadwraig bwysig iawn ar ôl dioddef 18 mlynedd o drais yn y cartref ac wedi ei saethu gan ei gŵr. Ie, menyw a hanner, sy'n llywio polisi ac yn newid agweddau, ac anrhydedd oedd cael sgwrsio â hi yng ngwesty'r Celtic Manor.

Ac yna wrth gwrs, Covid-19 a chyfnodau clo. Dim teithio. Dim cyfarfod â phobl. A phopeth ar stop. Dim mwy o gyfweliadau.

Neu dyna be' wnes i feddwl yn syth.

Troi at Zoom

Dwi'n siŵr fod neb wedi clywed am Zoom cyn mis Mawrth 2020 ond yn sydyn iawn, roedd pawb yn cadw mewn cysylltiad, yn cael cyfarfodydd ac yn mynd ymlaen gyda bywyd, trwy Zoom!

Wel, pam lai gwnes i feddwl! Os na chaiff Mohammed ddod i'r mynydd, pam na 'na'i barhau'r podlediad trwy recordio dros y cyfrifiadur?

Do, fe ges i ambell i sylw gan y techies, gan y rhai oedd yn chwilio am y sain 'puraf' bosib, ond ar ôl prynu'r offer gorau, ac ar ôl penderfynu mod i'n wirioneddol eisiau dechrau podlediad, es ati i drefnu ac i ddechrau hyrwyddo.

Rhywbeth i fi yn bennaf oedd y rhain i gychwyn arni. Cyfle i wneud rhywbeth newydd, rhywbeth gwerth chweil. Cyfle i sgwrsio â phobl neis, pobl oedd yn gwneud gwahaniaeth, a chymeriadau ac arbenigwyr oedd â rhywbeth i'w ddweud.

O ganlyniad, dwi 'di llwyddo i gynnal cyfweliadau (er ma' well gen i eu galw nhw'n sgyrsiau anffurfiol) gan rai o bobl fwyaf adnabyddus Cymru a Chymreig ar gyfer y podlediad Cymraeg, o nifer o feysydd gwahanol.

Ffynhonnell y llun, Chris Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sgwrsio gyda Amanda Protheroe-Thomas

Mae hi'n fraint i gael sgwrsio a chael bach o hwyl, ydy, ond mae hi hefyd yn fraint cael clywed ambell i hanes personol, rhyw stori ddewr am farwolaeth, pwynt chwyldroadol yn eu bywydau, atgof plentyndod ac ati.

Ambell i ddeigryn, ambell i reg, lot o chwerthin a lot o hwyl. Faint o bobl sy' 'di gael y cyfle i gyfweld â Beti George? Adam Price? Noel James? Maggi Noggi? Lowri Morgan? Julian Lewis Jones? Siân Lloyd? Carwyn Jones? A nifer fwy.

Ac yn ogystal â sgwrsio â Chymry yng Nghymru, mae recordio dros Zoom, sy'n fyd-eang wrth gwrs, wedi fy ngalluogi i siarad â Chymry Cymraeg sy'n byw neu yn gweithio yn China, De America, Gogledd Iwerddon a Gogledd America.

Newid byd

Dwi 'di dysgu fy hun sut i recordio dros y cyfrifiadur. Dwi 'di dysgu sut i olygu ac i gymysgu ar Audacity, sef pecyn golygu sain. Mae fy llys-fab, sy'n gerddor ac yn astudio cerddoriaeth yn y coleg, yn sgrifennu darnau amrywiol o gerddoriaeth wych i fi ar gyfer y penodau. Dwi'n cael y cyfle i hyrwyddo'r podlediadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r byd digidol a rhithiol yn sicr yn rhan bwysig o fy ngwaith a fy ngyrfa erbyn hyn… a dwi'n 56!!

Felly ydy, ma' bywyd wedi newid. Mae fy mywyd proffesiynol yn sicr wedi newid a dwi 'di gorfod addasu o ganlyniad i'r newidiadau hynny. Ond mae dechrau'r ddau bodlediad wedi achub fy mywyd i, wedi ychwanegu at, a chyfoethogi fy ngyrfa.

Dwi'n cael siarad â phobl dwi i'n eu dewis, pobl sy'n hoffi cael bach o glonc a, gobeithio, yn teimlo'n ddigon cyffyrddus i sgwrsio'n naturiol ac yn anffurfiol a chael y teimlad braf yna, ar ôl gorffen recordio, o fod wedi mwynhau.

Dwi 'di colli cownt faint o weithiau dwi 'di glywed, ''Wow! Dwi byth wedi siarad ynglŷn â hynny o'r blaen Chris!''

Felly diolch Zoom! Trueni nad oes gen i shares yn y cwmni - meddyliwch beth fyddai eu gwerth erbyn hyn?!

Mae podlediad Cymeriadau Cymru ar gael ar nifer o lwyfannau podlediadau.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig