Super League: Fydd chwaraewyr wedi'u gwahardd o Euro 2020?

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na 11 o chwaraewyr Cymru sy'n cynrychioli timau sydd o blaid y gystadleuaeth newydd

Mae'n bosib na fydd nifer o chwaraewyr Cymru ar gael ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop yn yr haf os ydy cynlluniau i sefydlu European Super League (ESL) yn dwyn ffrwyth.

Mae'r cynlluniau gan 12 clwb o Loegr, Sbaen a'r Eidal wedi cael eu beirniadu'n hallt gan weddill y byd pêl-droed.

Y nod ydy y byddai timau yn gallu cymryd rhan yn y gynghrair newydd a'u cynghreiriau domestig, ond mae ansicrwydd a fyddai ganddyn nhw'r hawl i wneud hynny.

Ond mae llywydd UEFA - y corff sy'n llywodraethu pêl-droed yn Ewrop - wedi disgrifio'r cynllun fel "cywilyddus".

Ychwanegodd Aleksander Čeferin y byddai chwaraewyr sy'n cynrychioli unrhyw un o'r timau mewn cynghrair o'r fath yn cael eu "gwahardd o Gwpan y Byd a'r Euros".

Mae Cymry yn chwarae i saith o'r timau sydd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n rhan o'r gynghrair newydd, sef Chelsea, Juventus, Lerpwl, Manchester City, Manchester United, Real Madrid a Tottenham Hotspur.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Pe byddai'r chwaraewyr sy'n cynrychioli'r clybiau hynny yn cael eu gwahardd o gystadlaethau UEFA a FIFA, ni fyddai 11 o chwaraewyr ar gael i Gymru yn Euro 2020 yr haf hwn.

Y chwaraewyr hynny fyddai Ethan Ampadu, Gareth Bale, Ben Davies, Daniel James, Dylan Levitt, Aaron Ramsey, Joe Rodon, Matt Smith, Neco Williams, Harry Wilson a Ben Woodburn.

Mae'r cynlluniau wedi denu ymateb tanllyd gan gefnogwyr, a hyd yma does yr un chwaraewr o'r 12 clwb wedi cyhoeddi eu bod o blaid y syniad.

Rhan o'r feirniadaeth ydy na fyddai'n rhaid i'r timau yma ennill eu lle yn y gynghrair.

Does dim gwybodaeth eto pryd mae'r grŵp o glybiau yn bwriadu dechrau'r gystadleuaeth, na chwaith beth fyddai eu cosb am wneud hynny.

Aleksander ČeferinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llywydd UEFA, Aleksander Čeferin wedi disgrifio'r cynllun fel "cywilyddus"

Dywedodd Mr Čeferin bod y cynllun yn un "sinigaidd" a'i fod "i'r gwrthwyneb o'r hyn y dylai pêl-droed fod".

"Bydd chwaraewyr yn y timau allai chwarae yn y gynghrair gaeedig yma yn cael eu gwahardd o Gwpan y Byd a'r Euros," meddai.

"Rydyn ni'n annog pawb i sefyll yn gadarn gyda ni wrth i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd hyn fyth yn dwyn ffrwyth."

Gwahardd 'cyn gynted â phosib'

Ychwanegodd y gallai'r clybiau a'r chwaraewyr sy'n eu cynrychioli gael eu gwahardd "cyn gynted â phosib" o gystadlaethau UEFA - sy'n cynnwys Euro 2020.

Bydd y gystadleuaeth, gafodd ei gohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig, yn cael ei chynnal rhwng 11 Mehefin ac 11 Gorffennaf eleni, ond mae'r gystadleuaeth yn dal i gael ei galw'n Euro 2020.

Mae Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn erbyn y Swistir ar 12 Mehefin, cyn mynd ymlaen i herio Twrci a'r Eidal.

Laura McAllisterFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura McAllister wedi disgrifio'r cynllun fel un "hunanol, sinigaidd"

Mae cyn-gapten Cymru Laura McAllister yn ceisio cael ei hethol fel cynrychiolydd benywaidd UEFA, corff llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd, ar Gyngor FIFA ar y funud.

Dywedodd hi wrth y BBC ddydd Llun bod y cynlluniau yn bygwth dyfodol pêl-droed.

"Rwy'n gwrthwynebu'r peth am amryw o resymau," meddai.

"Mae'n mynd yn erbyn gwerthoedd pêl-droed - sy'n seiliedig ar undod - ac mae'n gynllun hunanol, sinigaidd gan grŵp bychan iawn o glybiau.

"Mi fydd yn tanseilio pêl-droed a bydd yn effeithio ar allu aelodau UEFA fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ariannu pêl-droed ar lawr gwlad.

"Mae'n ergyd enfawr i fodolaeth y byd pêl-droed. Mae hon yn foment argyfyngus i'r gamp ac rwy'n llwyr gefnogi datganiad UEFA sy'n dweud 'digon yw digon'."