Adran Dau: Casnewydd 2-0 Crawley Town
- Cyhoeddwyd
Mae Casnewydd yn parhau yn safleoedd gemau ailgyfle Adran Dau wedi buddugoliaeth bwysig yn erbyn Crawley Town.
Sgoriodd yr amddiffynnwr Liam Shephard yn gynnar yn yr ail hanner gydag ymdrech o 25 llath a gurodd y golwr Glenn Morris.
Seliodd Aaron Lewis y fuddugoliaeth gyda gôl yn ystod y 10 munud ychwanegol ar ddiwedd yr ail hanner.
Mae'r Alltudion yn parhau'n seithfed yn y tabl, tri phwynt o flaen Exeter City yn yr wythfed safle.