Adran Dau: Exeter 0-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Newport's Joss Labadie fends off Alex HartridgeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Joss Labadie gwrthsefyll her gan Alex Hartridge

Mae Casnewydd yn parhau yn safleoedd gemau ailgyfle Adran Dau wedi gêm yn erbyn gwrthwynebwyr sydd hefyd yn dal â siawns o anelu am ddyrchafiad.

Yr Alltudion ddaeth yn agosaf at sgorio wrth i beniad Lewis Collins orfodi arbediad campus gan Jokull Andresson.

Roedd angen arbediad da arall gan Andresson i atal ymdrech gan Josh Sheehan.

Fe allai Exeter wedi gallu codi uwchben yr Alltudion pe tasen nhw wedi ennill ym Mharc St James.

Ond gyda phwynt yr un, mae tîm Mike Flynn yn aros yn y seithfed safle gyda 66 o bwyntiau, tra bod Exeter wedi syrthio o'r wythfed i'r nawfed safle.