Adran Dau: Southend 1-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi llwyddo i sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle Adran Dau wedi iddyn nhw ennill pwynt yn Southend ar ddiwrnod ola'r tymor arferol.

Gêm gyfartal oedd ei angen ar yr ymwelwyr er mwyn sicrhau eu lle yn safleoedd y gemau ail gyfle.

Ond y tîm cartref aeth ar y blaen wedi 11 munud pan lwyddodd Shaun Hobson i ganfod cefn y rhwyd o 12 llath.

Fe lwyddodd yr Alltudion i daro 'nôl ar ddechrau'r ail hanner gyda gôl gan Mickey Demetriou, cyn i Tom King eu hachub gan arbed ymdrech Matt Rush o'r smotyn.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros yn y pumed safle yn Adran Dau, ac fe fyddan nhw'n herio Forest Green Rovers yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.