Honiadau'n 'tanseilio awdurdod a hygrededd' AS Delyn
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gadeirydd Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig wedi mynegi syndod nad yw aelod seneddol o ogledd Cymru wedi ymddiswyddo ar ôl iddo gael ei atal o'r senedd am chwe wythnos.
Daeth y gosb ar ôl i banel annibynnol ddarganfod bod AS Delyn, Rob Roberts, wedi aflonyddu'n rhywiol aelod o'i staff.
Yn ei unig ddatganiad cyhoeddus ar y mater ers i'r panel gyhoeddi ei adroddiad, ymddiheurodd Mr Roberts i'r achwynydd ond dywedodd y byddai'n "parhau i wasanaethu" ei etholaeth.
Fodd bynnag, dywedodd Syr Alistair Graham, a gadeiriodd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus rhwng 2004-07, fod yr honiadau yn erbyn Mr Roberts yn tanseilio ei "awdurdod a'i hygrededd" fel AS.
Mae Mr Roberts wedi wynebu galwadau trawsbleidiol i ymddiswyddo gan gynnwys galwadau gan ddau weinidog Ceidwadol blaenllaw.
Ar ôl colli chwip y Torïaid, fel y mae pethau ar hyn o bryd bydd Mr Roberts yn rhydd i ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin fel AS annibynnol ar ddiwedd ei waharddiad.
Cafodd y gŵyn yn erbyn Mr Roberts ei asesu gan banel annibynnol a sefydlwyd i ymchwilio i gwynion yn erbyn ASau o aflonyddu a bwlio.
Nid yw'r broses yn cynnwys y pŵer i danio deiseb ad-alw a allai yn ei dro arwain at isetholiad, yn wahanol i pan fydd achosion yn cael eu hasesu gan Bwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin.
Mae galwadau wedi bod i newid y rheolau fel bod y broses newydd ar gyfer ymchwilio i gwynion o fwlio a chamymddwyn rhywiol hefyd yn gallu arwain at ddeiseb ad-alw.
Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC dywedodd Syr Alistair: "Mae'n wendid nad yw'n cyd-fynd â threfniadau disgyblu eraill.
"Rwy'n synnu nad yw'r unigolyn dan sylw wedi dod i'r casgliad yn bersonol nad oes ganddo rôl yn y dyfodol mewn gyrfa wleidyddol nac fel aelod seneddol."
Ychwanegodd fod yr "honiadau yn ddifrifol iawn ac mae'n rhaid eu bod nhw'n tanseilio eich awdurdod a'ch hygrededd fel aelod seneddol".
Politics Wales, BBC One Wales, 10:00 ddydd Sul 6 Mehefin ac yna ar iPlayer
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021